Rhwydwaith Abertawe
Fel aelod o Rwydwaith Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, rwyt ti'n rhan o gymuned fyd-eang o dros 250,000 o raddedigion. Gyda'r rhwydwaith yn tyfu 7,000 bob blwyddyn, mae cyn-fyfyrwyr Abertawe ledled y byd yn ffynnu mewn gyrfaoedd amrywiol, felly mae rhywbeth newydd, ysbrydoledig a chyffrous yn digwydd bob amser.
Cadwa dy fanylion yn gyfredol er mwyn sicrhau nad wyt ti'n colli mas ar;
- Ddiweddariadau e-bost rheolaidd, yn ogystal â chylchgrawn blynyddol cyn-fyfyrwyr SAIL, i gael y newyddion a'r ymchwil diweddaraf o Abertawe
- Cymuned ar-lein unigryw, Swansea Uni Connect, yn benodol ar gyfer cyn-fyfyrwyr, staff a myfyrwyr Abertawe
- Rhwydwaith byd-eang o gyn-fyfyrwyr Abertawe a all gynnig cyngor gyrfaoedd, cymuned leol a mwy
- Digwyddiadau cyn-fyfyrwyr fel aduniadau, cynadleddau cyn-fyfyrwyr a chyfleoedd rhwydweithio
- Penodau Rhyngwladol Abertawe i dy helpu di i aros mewn cysylltiad ag Abertawe tra y byddi di yn dy famwlad
- Cyfleoedd i gefnogi'r brifysgol a chyfrannu at dy ddyfodol
- Manteision unigryw i gyn-fyfyrwyr, fel cymorth gyrfa parhaus, gostyngiadau
- Y cyfle i ailgysylltu â chyfoedion y gallet ti fod wedi colli cysylltiad â nhw ers graddio