Llyfrgell y Brifysgol - Y Gorffennol, y Presennol a'r Dyfodol.

Ymunwch â ni yn Llundain am ein digwyddiad rhwydweithio blynyddol i gyn-fyfyrwyr, lle mae'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol yn cwrdd. Byddwn yn mynd ar daith drwy archifau'r Brifysgol, yn hel atgofion, wrth hefyd edrych ymlaen at y bennod nesaf.

Yn fwy na thaith i hel atgofion, mae’r noson yn gyfle i dyfu eich rhwydwaith yn Llundain - ail-gysylltu â hen ffrindiau, cwrdd â chyn-fyfyrwyr eraill ar draws diwydiannau, a meithrin perthnasoedd gyda darpar gyflogwyr, cydweithredwyr, gweithwyr a phartneriaid busnes mewn lleoliad hamddenol a llawn ysbrydoliaeth.  

Cynhelir digwyddiad 2026 rhwng 6pm a 9pm ar 26 Chwefror yn y Gymdeithas Frenhinol urddasol, 6–9 Carlton House Terrace, Llundain SW1Y 5AG.

Mae Llyfrgell 1937 ar Gampws Singleton wedi bod wrth wraidd bywyd myfyrwyr am bron canrif. Ar gyfer cenedlaethau o fyfyrwyr, bu'n fwy na lle i astudio - mae wedi bod yn lle ar gyfer adolygu'n hwyr y nos, cwrdd â phobl ar hap, meithrin cyfeillgarwch gydol oes a thasgu syniadau am gampweithiau. 

Rydym yn mynd ag ychydig o ddeunyddiau archifau'r llyfrgell i Lundain. Efallai y byddwch yn gweld pethau o'ch amser yn Abertawe, copïau o bapurau newydd myfyrwyr, neu efallai y byddwch yn gweld eich hun yn y lluniau hyd yn oed.

Wedi'i hadeiladu o ganlyniad i gymuned o fyfyrwyr a oedd yn tyfu, Llyfrgell 1937 yw Adain y Dwyrain o adeilad llawer mwy a ddyluniwyd ym 1963 - ond i lawer, bydd yn parhau i fod yn lle lle gwnaeth eu stori prifysgol ddwyn ffrwyth.

Mae’r llyfrgell wedi datblygu law yn llaw â’r Brifysgol. Mae mannau gweithio a rennir, podiau trafod a mannau cynllun agored heddiw yn adlewyrchu'r ffyrdd newydd o ddysgu a chydweithio. Efallai fod y silffoedd yn ysgafnach, ond mae'r adeilad yn dal i fod yn llawn egni, syniadau a sgyrsiau.

Felly beth nesaf? Sut olwg ddylai fod ar lyfrgell ar gyfer y genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr? Wrth i adnoddau digidol dyfu ac wrth i ffyrdd o weithio barhau i newid, sut rydym yn dylunio mannau sy'n parhau i ddod â phobl ynghyd?