Roeddem ni wrth ein boddau i groesawu grŵp o gyn-fyfyrwyr yn ôl i Gampws Singleton am benwythnos o hel atgofion a dal i fyny gyda hen ffrindiau yn ein Haduniad Croeso'n Ôl y mis diwethaf.
Roedd yn wych eu croesawu'n ôl a'u cynnwys mewn gweithgareddau amrywiol, gan gynnwys cwis ar thema Abertawe ym mar JC's, taith dywys o’r campws a bwffe. Gwnaethon ni wir fwynhau dod i adnabod pawb a gobeithio eich gweld chi'r flwyddyn nesaf!
Tocyn Penwythnos - Cynnwys Dawns yr Haf - £100
Pris y tocyn yn cynnwys mynd i Ddawns yr Haf

Tocyn penwythnos Eithrio Dawns yr Haf - £60
Nid yw pris y tocyn yn cynnwys mynd i Ddawns yr Haf

Noson Cwis a Pizza JCs - £20
6pm - nos Sadwrn 10 Mehefin. Yn cynnwys bwyd a dwy ddiod.

Mae gennym benwythnos llawn gweithgareddau i chi, ac mae croeso i chi wneud cynifer ohonynt neu gyn lleied ag y dymunwch!
Diogelu Data Datganiad Cryno Rydyn ni wedi ymrwymo i ddiogelu'ch gwybodaeth bersonol a bod yn dryloyw ynghylch y wybodaeth rydyn ni'n ei chadw amdanoch chi. Darllenwch ein datganiad diogelu data llawn yn achos cyn-fyfyrwyr a chefnogwyr yn: https://www.swansea.ac.uk/cy/cyn-fyfyrwyr/cysylltwch-a-swyddfar-cynfyfyrwyr/polisi-preifatrwydd/