Yn galw ar holl raddedigion 1980au Abertawe!
Yn galw ar holl gyn-fyfyrwyr Abertawe a raddiodd yn y 1980au!
Mae aduniad cyn-fyfyrwyr Abertawe yn ôl ac mae'n bleser gennym eich gwahodd i ymuno â ni i hel atgofion eleni mewn aduniad unigryw! Ymunwch â ni am benwythnos i'w gofio a fydd yn llawn hel atgofion, hwyl ac ail-gysylltu. Cynhelir ein Penwythnos Aduniad Cyn-fyfyrwyr â thema'r 1980au rhwng 3 a 5 Hydref, 2025. Bydd y digwyddiad cyffrous hwn yn rhoi cyfle i chi ail-fyw hud yr 80au, ailgysylltu â'ch hen ffrindiau, ac ailddarganfod y campws roeddech chi'n arfer ei alw'n gartref.
Efallai eich bod chi wedi colli cysylltiad â rhai o'ch cyd-fyfyrwyr dros y blynyddoedd - dyma gyfle i chi ailgynnau'r cysylltiadau hynny. Gyda llu o weithgareddau amrywiol a digon o gyfleoedd i rwydweithio, cewch gyfle perffaith i ailgysylltu a hel atgofion. Rydyn ni hefyd wedi cynnwys amser rhydd fel y gallwch archwilio harddwch naturiol Penrhyn Gŵyr neu fynd am dro i'r Mwmbwls.
Rydyn ni wedi creu rhaglen sy’n llawn gweithgareddau cyffrous o Noson Ddisgo â thema'r 80au i deithiau o'r campws, Noson Pizza a Chwis hwyl a llawer mwy. Dyma'r cymysgedd perffaith o ddigwyddiadau i ail-fyw eich amser fel myfyriwr yn Abertawe, ailgysylltu â hen ffrindiau a chreu atgofion newydd. Darllenwch isod i weld holl fanylion yr hyn rydyn ni wedi'i drefnu ar gyfer y penwythnos!
Tocynnau Aduniad 2025