Estynnwn wahoddiad cynnes i chi i ddathlu tymor yr ŵyl mewn ffordd draddodiadol gyda ni. Ar ôl cerdded o Dŷ Fulton yng ngolau llusernau, byddwn yn ymgynnull yn Abaty Singleton i fwynhau gwin poeth, bwffe Nadoligaidd a straeon i gynhesu’r galon - gan ein myfyrwyr ac o ddathliadau Nadolig y gorffennol y tu mewn i'w waliau hanesyddol.
Yna, wedi'n hamgylchynu gan oleuadau'r goeden Nadolig a lleisiau hyfryd ein Cymdeithas Gorawl, byddwn yn canu carolau o gwmpas y goeden. Mae noson lawen o gerddoriaeth, atgofion a chymuned yn aros amdanoch! Estynnwn wahoddiad cynnes i chi ymuno â ni nos Iau 4 Rhagfyr o 5.30pm yn Abaty Singleton.
BETH I'W DDISGWYL:
- Taith gerdded yng ngholau llusernau Nadoligaidd o'r rhodfa ac o amgylch tiroedd hardd Abaty Singleton. Bydd cerddoriaeth fyw Nadoligaidd wedi'i pherfformio gan leisiau hudolus ein Cymdeithas Gorawl.
- Bydd ein myfyrwyr talentog sy'n astudio Ysgrifennu Creadigol yn adrodd straeon gwreiddiol cynnes ac yn eich tywys ar deithiau drwy Nadoligau agos a phell - pob un ohonynt yn llawn rhyfeddod, cynhesrwydd a llawenydd yr ŵyl.
- Ceir cyfle prin i archwilio rhannau o Abaty Singleton cyn clywed straeon am sut y dathlwyd y Nadolig o fewn ei furiau hanesyddol
- Bydd cyfleoedd i ailgysylltu â chyn-fyfyrwyr, staff, myfyrwyr a chyfeillion y Brifysgol wrth i ni ddathlu'r tymor gyda'n gilydd.
- Bydd gwin cynnes a bwffe Nadoligaidd i gwblhau noson llawn llawenydd, cerddoriaeth ac ysbryd cymunedol