Colin Parry

Ymunwch ag Adran Wleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol Prifysgol Abertawe ar gyfer darlith wadd gan y cyn-fyfyriwr Colin Parry OBE (BA Gwleidyddiaeth, Dosbarth 1969)

Nos Iau 20 Mawrth
Dechrau am 6pm, gyda sesiwn holi ac ateb a llofnodi llyfrau gyda Colin ar ôl y ddarlith.

Ar 20 Mawrth 1993, gollyngodd Byddin Weriniaethol Iwerddon (IRA) ddau fom ar stryd siopa yn Warrington, heb rybudd. Yn sgil y bomiau, bu farw Jonathan Ball, a oedd yn 3 oed, yn y fan a'r lle a chafodd 55 person arall eu hanafu, gan gynnwys Tim Parry, 12 oed. Cafodd Tim anafiadau sylweddol i'w ben, a bu farw bum niwrnod yn ddiweddarach.

Byddai colli plentyn mewn amgylchiadau mor ddinistriol yn ddigon i chwalu bywydau'r rhan fwyaf o bobl, ond delio â'r sefyllfa mewn ffordd wahanol a wnaeth Colin a'i wraig Wendy. Creodd Colin a Wendy raglen ddogfen Panorma 'arbennig', lle gwnaethon nhw ymweld â Gogledd Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon a Boston yn UDA. Yn ystod eu hamser yng Ngogledd Iwerddon, ymwelon nhw â sefydliadau a oedd yn gweithio dros Heddwch, er mwyn gweld sut roedden nhw'n ymgysylltu â phobl ifanc a oedd yn byw yng nghanol rhywbeth a ystyriwyd gan lawer o bobl yn rhyfel di-ben-draw.

Cawson nhw eu hysbrydoli gan yr hyn a welsant yng Ngogledd Iwerddon, ac o ganlyniad sefydlodd Colin a Wendy eu helusen eu hun (the Foundation) ym 1995 er mwyn gweithio dros heddwch.

Ar y diwrnod a fydd yn nodi 32 mlynedd ers Bomio Warrington, rydym yn falch bod Colin yn medru ymuno â ni yn Abertawe i rannu mewnwelediad i'w fywyd a'r ymgyrchu y mae'n ei wneud dros heddwch ar ôl digwyddiad mor ddinistriol.