Beth yw Dyfarniad er Anrhydedd?
Mae Dyfarniad er Anrhydedd yn un o'r anrhydeddau uchaf y gall ein Prifysgol eu rhoi. Cyflwynir Dyfarniadau er Anrhydedd i unigolion i gydnabod cyfraniadau neilltuol at eu maes - boed hynny drwy gyflawniadau academaidd mawr, gwasanaeth eithriadol i'n Prifysgol, neu gyflawniadau rhagorol yn eu meysydd gwaith nhw. Fel arfer, cyflwynir y dyfarniadau hyn i unigolion neilltuol yn ein seremonïau graddio bob blwyddyn.
Pam enwebu rhywun?
Hoffem gydnabod yr unigolion neilltuol sy'n cael effaith ystyrlon yn fyd-eang ac yn lleol, yn ein cymunedau - y rhai hynny sy'n eich ysbrydoli i ddysgu, addysgu, ymchwilio a chyflawni eich nodau. Os gallwch feddwl am rywun, hoffem glywed amdano neu amdani!
Rydym yn croesawu enwebiadau gan holl staff presennol Prifysgol Abertawe, ein cyn-fyfyrwyr, aelodau'r Cyngor a'r Senedd, ynghyd â Chymrodorion er Anrhydedd presennol.
Noder y dylai pob enwebiad aros yn gwbl gyfrinachol ac mae'n hanfodol nad yw enwebai yn cael gwybod am enwebiad cyn iddo gael ei gymeradwyo.