Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflwyno dyfarniadau er anrhydedd i ddau o enwogion y byd criced, y brodyr Alan ac Eifion Jones.
Ganwyd Alan ac Eifion i deulu o 11 yn Felindre ar gyrion gogleddol Abertawe, a dechreuodd eu taith ym myd criced yn y caeau ger eu cartref. Gyda batiau wedi’u creu gan eu tad o ddarnau o bren, gwnaethant berffeithio eu sgiliau ar gae pantiog ac anwastad, gan osod y sylfaen efallai ar gyfer eu gallu eithriadol i ymdopi â symudiadau annisgwyl gan y bêl.
Cafodd doniau’r brodyr eu cydnabod yn gyflym ar lefel clwb, ac o ganlyniad i hynny aethant i’r ysgol griced dan do wythnosol yng Nghastell-nedd. Er gwaethaf yr heriau, gan gynnwys cludo eu cit criced chwe milltir ar droed pe baent yn colli’r bws adref, daethant i’r amlwg drwy eu hymroddiad a’u sgiliau.
Ymunodd Alan â Chlwb Criced Morgannwg ym 1957, ac yna Eifion ym 1961. Yn wreiddiol, batwyr oedd y ddau, ond gwelwyd yn gyflym fod gan Eifion ddawn naturiol fel wicedwr. Nes iddynt ymddeol ym 1983, fe wnaethant chwarae rhan ganolog yn ystod oes aur Morgannwg, gan gyfrannu’n sylweddol at lwyddiant y tîm.
Roedd Alan, batiwr agoriadol llaw chwith, yn adnabyddus am ganolbwyntio’n ddiwyro, ei lygaid cyflym, ei draed sicr a’i ddewrder. Yn ystod ei yrfa anhygoel, sgoriodd dros 1,000 o rediadau mewn 23 tymor yn olynol. Bu’n gapten ar Forgannwg ym 1977 a 1978, a chafodd ei enwi’n Gricedwr y Flwyddyn gan Wisden ym 1978. Un batiad bythgofiadwy ganddo oedd yr un ym mis Gorffennaf 1966 pan sgoriodd Alan 161 rhediad heb fod allan yn erbyn bowlwyr arswydus India’r Gorllewin, gan sicrhau buddugoliaeth i Forgannwg.
Cydnabuwyd gwasanaeth neilltuol Alan at griced Cymru pan gyflwynwyd MBE iddo ym 1982. Ar ôl ymddeol ym 1983, derbyniodd rôl hyfforddwr Morgannwg ac yn ddiweddarach fe’i penodwyd yn Llywydd Clwb Criced Morgannwg.
Cafodd Eifion ei glodfori am ei ddawn fel wicedwr, a chyflawnodd y rôl honno i Forgannwg o ddiwedd y 1960au nes iddo ymddeol. Gosododd sawl record, gan gynnwys cymryd 94 wiced criced dosbarth cyntaf ym 1970 a chyflawni’r sgôr uchaf gan wicedwr i Forgannwg, sef 146 heb fod allan ym 1968. Yn rhyfeddol, ei bartner wrth sgorio’r rhediadau a sicrhaodd y fuddugoliaeth honno oedd ei frawd Alan.
Wrth dderbyn ei ddyfarniad er anrhydedd, meddai Alan: “Mae derbyn y gydnabyddiaeth hon yn anrhydedd fawr, yn enwedig gan Brifysgol Abertawe. Ar ôl tyfu i fyny yn yr ardal a threulio rhan sylweddol o’m gyrfa griced ar faes San Helen, mae gen i lawer o atgofion hapus o’r cyfnod hwnnw.”
Ychwanegodd Eifion: “Mae’n fraint derbyn yr anrhydedd yma gan Brifysgol Abertawe. Graddiodd fy wyresau y llynedd, ac er syndod i bawb, dyma fi’n cael cyfle i wisgo’r clogyn a’r het eleni! Byddaf yn falch o’m gyrfa fel cricedwr proffesiynol bob amser ac mae derbyn yr anrhydedd hon yn Abertawe, dinas lle chwaraeais i lawer o gemau cofiadwy i Forgannwg yn golygu llawer i mi.”