Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd er anrhydedd i Amanda Mellor, cyn-fyfyriwr Astudiaethau Busnes ym Mhrifysgol Abertawe.
Graddiodd Amanda Mellor o Brifysgol Abertawe gyda gradd mewn Astudiaethau Busnes Ewropeaidd gyda Ffrangeg a dechreuodd ei gyrfa yn y Ddinas drwy weithio ym meysydd rheoli cyllid ac yna bancio buddsoddiadau ar gyfer James Capel a Robert Fleming.
Ar ôl gweithio yn Llundain a Pharis, gadawodd Amanda y byd bancio i ddilyn gyrfa ym myd diwydiant ym maes cysylltiadau buddsoddwyr a materion corfforaethol, gan weithio gyda chwmnïau yn y DU a’r Unol Daleithiau cyn ymuno â Marks and Spencer fel Cyfarwyddwr Cysylltiadau Buddsoddwyr.
Yn ystod ei chyfnod yn M&S, cafodd ei dyrchafu i swydd Ysgrifennydd y Grŵp a bu’n aelod gweithredol o Bwyllgor Gweithredu’r Grŵp.
O M&S ymunodd â Standard Chartered Bank, sef grŵp bancio a gwasanaethau ariannol rhyngwladol blaenllaw yn Asia, Affrica a’r Dwyrain Canol, fel Ysgrifennydd y Grŵp.
Yn gynharach eleni ymunodd Amanda â GSK a hi yw Ysgrifennydd Cwmni Grŵp cyntaf Haleon plc, un o geffylau blaen newydd y byd ym maes gofal iechyd defnyddwyr. Gwahanodd Haleon oddi wrth GSK ac fe’i rhestrwyd fel cwmni cyhoeddus ym mis Gorffennaf eleni. Dyma un o’r achosion mwyaf o rannu cwmni a chofrestru o’r newydd yn hanes y DU.
Gwnaed Amanda yn Gymrawd Sefydliad yr Ysgrifenyddion Siartredig, gan gydnabod ei chyfraniad at hyrwyddo arferion gorau ac adrodd ym maes Llywodraethu Corfforaethol yn y DU, yn ogystal â rôl ysgrifennydd y cwmni.
Mae gan Amanda gysylltiad gydol oes ag ardal Abertawe, yn enwedig Gŵyr, lle mae ei theulu’n byw.
Wrth dderbyn ei gwobr, meddai Amanda Mellor: “Rwy’n ddiolchgar iawn am yr amser a dreuliais yn astudio yn Abertawe. Drwy fy ngradd yma dechreuais i ar fy llwybr gyrfa. Mae’r ffaith bod y Brifysgol wedi cyflwyno’r wobr hon i mi’n destun balchder ac yn anrhydedd aruthrol.”