Mae Beti George yn newyddiadurwr, darlledwr ac yn ymgyrchydd dros ofal iechyd.

Wedi’i geni a’i magu yng Nghoed-y-bryn ger Llandysul, dechreuodd Beti George ei gyrfa fel gohebydd gyda’r BBC yn Abertawe ar ddechrau’r 1970au cyn dod yn gyflwynydd rhaglenni newyddion, materion cyfoes a cherddoriaeth ar S4C yn yr 1980au.

Ers 1987 mae hi wedi cyflwyno sioe wythnosol ar BBC Radio Cymru, Beti a’i Phobol (fersiwn Gymraeg o Desert Island Discs). Mae hi hefyd wedi cyflwyno noson olaf cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ers sawl blwyddyn.

Mae hi’n ymgyrchu dros godi ymwybyddiaeth o glefyd Alzheimer a gofal i bobl sy’n dioddef o ddementia ac yn eiriolwr pwysig dros bobl sy’n byw gyda chlefyd Alzheimer a’u teuluoedd.

Yn 2017, derbyniodd rhaglen ddogfen a oedd yn portreadu ei bywyd gyda’i phartner, y diweddar ddarlledwr David Parry-Jones, David and Beti: Lost for Words, wobr aur yng Ngŵyl Ffilm a Theledu Efrog Newydd. Mae Beti ar restr Wales Online o 100 o Fenywod Cymru, derbyniodd wobr Cyfraniad Eithriadol yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru yn 2016 a Gwobr Cyflawniad Oes John Hefin yn 2018. Daeth Beti George yn aelod o Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1986.

Wrth dderbyn ei dyfarniad er anrhydedd, meddai Beti George: “Mae cael cydnabyddiaeth gan Brifysgol Abertawe’n anrhydedd fawr. Ac rwy’n ddiolchgar iawn i’r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) ym Mhrifysgol Abertawe ac yn enwedig i Vanessa Burholt, Athro Gerontoleg ym Mhrifysgol Abertawe, am ymgymryd â gwaith ymchwil penodol sydd â’r nod o’i gwneud hi’n haws i ofalu am anwylyd sydd â dementia yn eu cartref eu hunain.

“Pan oeddwn i’n gofalu am fy mhartner David (Parry-Jones) oedd â chlefyd Alzheimer, doeddwn i ddim yn ei ystyried yn faich. Ar ôl iddo farw yn 2017, penderfynais gysylltu â CADR i weld a fyddai gan rywun ddiddordeb mewn ymchwilio i (an)ymataliaeth a dementia ymhlith pobl sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain. Roedd yr Athro Vanessa Burholt yn awyddus i ymgymryd â’r her, gan nad oedd fawr ddim ymchwil wedi’i wneud ar y mater. Gwaith tîm oedd hwn, a byddaf yn ddiolchgar iddynt i gyd am byth.

“Gyda llaw, mae fy ymgyrch i sicrhau bod y Gymraeg wrth galon gofal dementia yn parhau!”