Cafodd Bonnie Tyler, a anwyd yn Gaynor Hopkins, ei magu yn Sgiwen, pentref bychan ger Abertawe. Tyfodd i fod yn un o berfformwyr mwyaf adnabyddus Cymru, gan gael llwyddiant yn y siartiau ledled y byd. Mae'n cael ei chydnabod am ei llais unigryw, a rhestr hir o recordiau sengl llwyddiannus gan gynnwys Total Eclipse of the Heart, It's a Heartache, Holding Out for a Hero, Lost in France, More Than a Lover, Bitterblue ac If I Sing You a Love Song. Yn ystod ei gyrfa hanner can mlynedd, mae Bonnie wedi perfformio i gynulleidfaoedd mewn gwledydd ar draws y byd, ac mae wedi cael clod beirniadol am ei halbymau diweddar Rocks and Honey a Between The Earth and the Stars. Mae ei halbwm diweddaraf The Best Is Yet to Come – a ryddhawyd ar 26 Chwefror 2021 - yn cyfleu seiniau ac arddulliau roc pop yr 80au mewn ffordd gyfoes.

Mae Bonnie yn gweithio ar gerddoriaeth newydd ar hyn o bryd, ac yn ddiweddar cyhoeddodd ei chofiant cyntaf erioed, Straight from the Heart, sydd ar gael trwy Coronet Books. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Bonnie wedi denu torfeydd enfawr ar daith gyda'i Between the Earth and the Stars Live Tour yn 2019, ac yn fwyaf diweddar ar ei thaith 40 Mlynedd “Total Eclipse of the Heart” Tour, a ddechreuodd ym mis Hydref 2023.