Mae Cerys Matthews yn gerddor, awdur a darlledwr. Mae hi'n cyflwyno ac yn rhaglennu sioe radio arobryn ar BBC 6 Music bob dydd Sul, The Blues Show ar BBC Radio 2 bob dydd Llun am 9pm ac yn cyd-gyflwyno sioe gerddoriaeth newydd Radio 4 'ADD TO PLAYLIST' gyda Jeffrey Boakye, sydd yn cael ei darlledu bob dydd Gwener am 7.30pm.

Sefydlodd Cerys ŵyl Good Life Experience gyda Charlie a Caroline Gladstone yn 2014. Mae hi wedi curadu a chyfansoddi ar gyfer theatrau, gan gynnwys y National Theatre, Llundain a'r Tate Modern a bu'n gyfarwyddwr artistig ar gyfer seremoni agoriadol World Music Expo 2013. Dyfarnwyd Gwobr Dewi Sant gyntaf iddi am ei gwasanaethau i ddiwylliant gan Brif Weinidog Cymru yn 2014, a'r un flwyddyn, dyfarnwyd MBE iddi am ei gwasanaethau i gerddoriaeth.

Roedd Cerys yn un o sylfaenwyr y band Catatonia a werthodd filiynau o recordiau ac mae'n canu ar y ffefryn sy'n cael ei fwynhau bob gaeaf, Baby it's Cold Outside gyda Syr Tom Jones.

Cafodd ei geni yng Nghaerdydd ar 11 Ebrill 1969 ac mae ei diddordebau’n cynnwys gwyddoniaeth, natur, cerddoriaeth, celf, llenyddiaeth a chwaraeon.