Y Fonesig Siân Phillips DBE CBE Hon DLitt Prifysgol Cymru a Chymrawd Anrhydeddus tri choleg. Ganed Siân yng Ngwauncaegurwen. Graddiodd o Brifysgol Cymru mewn Saesneg ac Athroniaeth. Enillodd ysgoloriaeth i RADA ac aeth ymlaen i ennill Medal Aur Bancroft.
Mae Siân wedi ymddangos mewn cannoedd o ddramâu, rhaglenni teledu a ffilmiau. Yn fwyaf nodedig ar gyfer y National Theatre, y Royal Shakespeare Company, Theatr Genedlaethol Cymru a Frantic Assembly, mae ei gwobrau a’i henwebiadau'n cynnwys BAFTA, Olivier, National Television Award, gwobrau TONY a Drama Desk, gwobrau cyflawniad oes ar gyfer Drama Radio a hi yw'r unig berson i gael gwobr BAFTA Cymru yn ei henw.
Mae ei rhannau theatrig diweddaraf yn cynnwys cynhyrchiad y Theatre Royal Windsor o 'The Chalk Garden' gydag Edward Fox, cynhyrchiad Jermyn Street Theatre o 'Rockabye and Footfalls' gan Beckett, a chynhyrchiad Royal National Theatre o 'Under Milk Wood' gyda Michael Sheen.
Eleni lansiwyd y ffilm ddogfen 'Siân Phillips yn 90' a wnaed gan Rondo Films, a ryddhawyd yn Gymraeg a Saesneg. Ei drama nesaf fydd 'Gustave and George' yn Jermyn Street Theatre, a bydd ar daith gydag Alex Jennings yn 'It's All Greek!'. Y gaeaf hwn bydd yn ymddangos yn 'Tables Separate' gan Terence Rattigan sy'n dechrau yn y Theatre Royal yng Nghaerfaddon.
Mae Siân wedi cyhoeddi dwy gyfrol o fri o'i hunangofiant ac ailgyhoeddwyd y rhain mewn un gyfrol yn 2022. Mae hi'n noddwr RAFT, Llysgennad Hospice UK, Is-lywydd Canolfan Gymraeg Llundain ac yn Aelod o Orsedd y Beirdd, mae wedi'i gwneud yn Rhyddfreiniwr Dinas Llundain ac yn un o ymddiriedolwyr The Shaw Society. Eleni dyfarnwyd medal y Cymrodorion iddi ar gyfer y Celfyddydau.