Mae Carol yn ddiwydiannwr a chyllidwr profiadol, ac astudiodd y Gwyddorau Naturiol fel myfyriwr israddedig yng Nghaergrawnt, gan arbenigo mewn Biocemeg. Dechreuodd ei gyrfa yn y diwydiant olew a nwy cyn symud i fancio buddsoddi lle bu ganddi uwch swyddi yn UBS, Credit Suisse First Boston, JP Morgan, lle bu'n Bennaeth Ymchwil Ecwiti Ewrop, a Chase Manhattan Bank. Mae ganddi radd PhD mewn archaeoleg masnach hynafol ac mae'n parhau ag ymchwil amlddisgyblaethol ar y pwnc hwn. Mae Carol yn Gymrawd Cymdeithas yr Hynafiaethwyr, yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn ogystal â Chymrawd er Anrhydedd Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Yn ystod 2019, ymunodd â saith cyfarwyddwr bwrdd corfforaethol arall yn Llundain i sefydlu Chapter Zero, rhwydwaith yn Neuadd Hughes, Prifysgol Caergrawnt i alluogi cyfarwyddwyr anweithredol cwmnïau i ymgysylltu â risg hinsawdd a chyflawni targedau sero net ar gyfer allyriadau carbon. Bellach mae gan Chapter Zero o leiaf un aelod ar 70% a mwy o Fyrddau FTSE 100. Hefyd, mae Chapter Zero yn y DU wedi cefnogi sefydlu rhwydwaith byd-eang o Siapteri (dan Fenter Llywodraethu Hinsawdd Fforwm Economaidd y Byd) ac mae'n cynnwys 100,000 o aelodau sy’n Gyfarwyddwyr Byrddau ar hyn o bryd.

https://chapterzero.org.uk

Ar hyn o bryd mae'n gwasanaethu ar ddau fwrdd cwmni cyhoeddus: Bonheur ASA (cwmni rhestredig o Norwy ym maes cynhyrchu a gwasanaethau ynni adnewyddadwy) a Tharisa plc (cwmni mwyngloddio platinwm rhestredig yn Llundain a Johannesburg). Mae Carol yn Aelod o Gyngor Research England hefyd ac yn Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol y Labordy Ffisegol Cenedlaethol. Ar ôl ymddeol yn ddiweddar o fwrdd Banc Datblygu Cymru (sy'n buddsoddi mewn busnesau bach a chanolig yma yng Nghymru), hi yw'r aelod benywaidd cyntaf o fwrdd Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Thrysorydd Clwb Criced Morgannwg. Yn ddiweddar hefyd fe'i penodwyd yn Gadeirydd Heneb, yr Ymddiriedolaeth Archaeoleg Gymreig, sefydliad cenedlaethol sy'n deillio o uno pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol hanesyddol Cymru.