Mae Dr Debra Williams yn un o fenywod busnes mwyaf blaenllaw Prydain sydd â hanes profedig a thalent greddfol i gynhyrchu twf a nodi cyfleoedd busnes newydd.
Derbyniodd Debra wobr Menyw Gymreig y Flwyddyn am Arloesi, cafodd ei chydnabod fel un o’r 200 o fenywod busnes gorau yn y DU gan y Frenhines, dyfarnwyd Gwobr Cyflawniad Oes iddi a daeth yn Ddoethur er anrhydedd ym Mhrifysgol Abertawe ac yn Ddoethur er anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor i enwi ond ychydig o’i chydnabyddiaethau.
Yn ystod ei gyrfa, mae Debra wedi cyflawni nifer o rolau uwch ac mae wedi gweithio ar lefel reoli yn rhai o fusnesau mwyaf adnabyddus y DU gan gynnwys Confused.com, Admiral, Tesco Bank, NCR, Covea, Prifysgol Abertawe a News Corporation. Yn ystod ei chyfnod fel Rheolwr Gyfarwyddwr Confused.com, gwefan gymharu gyntaf y DU a’r gyntaf yn y byd siŵr o fod, fe adeiladodd Debra y busnes yn un o brif safleoedd cydgrynhoi'r DU.
Mae Debra’n byw yma yn y De. Mae hi’n angel fuddsoddwr, yn ymgynghori â chwmnïau yn y DU, Ewrop a’r Unol Daleithiau. Mae’n aelod o Fwrdd Sefydliad Alacrity, Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, Cymdeithas Adeiladu’r Principality, Co-op Insurance ac yn gadeirydd GCRE Ltd. Tan yn ddiweddar bu’n Gadeirydd Gyrfa Cymru a’r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol i Lywodraeth Cymru. Mae hi’n neilltuo amser hefyd i fod yn llysgennad busnes i Dŷ Hafan ac yn ymddiriedolwr Cymorth i Ddioddefwyr.