Ganwyd Rebecca yn Preston, Lloegr ym 1990. Derbyniodd ei gradd baglor mewn Sŵoleg o Brifysgol Manceinion, ac yn ystod y cyfnod hwn y cafodd ei chyflwyno gyntaf i fyd diogynnod (sloths) a chadwraeth. Yn 2009, dechreuodd ar leoliad ymchwil 12 mis yn Costa Rica lle darganfu'n gyflym fod diffyg gwybodaeth sylweddol am ddiogynnod a'r heriau cadwraeth roedden nhw’n eu hwynebu. Er mai dyma'r rhywogaeth sy’n cael ei derbyn amlaf i ganolfannau achub bywyd gwyllt yn Ne a Chanolbarth America, prin oedd ymchwil wyddonol gywir, ac ychydig iawn o bobl oedd yn gwybod yn iawn beth oedd diogyn. Yna penderfynodd Rebecca dreulio’i bywyd yn ceisio deall yr anifeiliaid hyn yn well a’u helpu nhw.

Ar y dechrau roedd hi'n cael trafferth cael cyllid ar gyfer ei gwaith, ond wrth i gyfnod cyllido torfol gychwyn, llwyddodd i godi $150,000 trwy ymgyrch ar-lein a oedd yn ei galluogi i gynnal yr astudiaeth hiraf a gofnodwyd erioed i ecoleg diogynnod gwyllt (sy'n parhau hyd heddiw!), a datblygodd y protocol cyntaf ar gyfer adsefydlu diogynnod amddifad yn llwyddiannus yn ôl i'r gwyllt. Fe wnaeth y sylw a gafodd ei hymgyrch codi arian yn y cyfryngau droi diogynnod yn rhyfeddodau diwylliant-pop yn gyflym. Daeth manteision ac anfanteision yn sgil hynny: mae'n dda ar gyfer ennyn diddordeb mewn ymchwil a chadwraeth, ond mae wedi sbarduno cynnydd mewn ecsbloetio diogynnod hefyd.

Treuliodd Rebecca y chwe blynedd nesaf yn byw ar ei phen ei hun yn jyngl Costa Rica, gan olrhain symudiadau diogynnod gwyllt a chasglu data a fyddai'n ei galluogi, maes o law, i raddio gyda PhD mewn Biowyddoniaeth o Brifysgol Abertawe yn 2017. Mae hi wedi cyhoeddi papurau niferus ar ecoleg, bioleg, geneteg a ffisioleg diogynnod, ac mae ei hymchwil wedi dangos y ffyrdd unigryw y mae tymheredd a newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar ddiogynnod, yn ogystal â sut mae lleoliad a threfoli yn effeithio ar amrywiaeth genetig.

Yn 2017 sefydlodd Rebecca Sefydliad Cadwraeth Diogynnod - The Sloth Conservation Foundation (SloCo): elusen gofrestredig sy'n ymroddedig i arbed diogynnod yn y gwyllt trwy fentrau ymchwil a chadwraeth. Heddiw mae wedi'i lleoli yn Costa Rica yn llawn amser lle mae'n rheoli holl raglenni cadwraeth ac ymchwil y sefydliad i ddiogynnod yn y maes. Er ei bod yn parhau i gyhoeddi ymchwil, mae Rebecca’n gweithio'n agos gyda chymunedau lleol, tirfeddianwyr a busnesau hefyd i greu cynghrair o bobl sy'n ymroddedig i gadwraeth bywyd gwyllt. Trwy SloCo, maent wedi ailgoedwigo dros 60 cilomedr sgwâr erbyn hyn, wedi gosod 300 o bontydd bywyd gwyllt, addysgu 7000 o blant ysgol (a mwy!). Yn 2020, helpodd Rebecca lywodraeth Costa Rica i restru'r diogyn fel symbol cenedlaethol swyddogol y wlad sy'n sicrhau bod gan awdurdodau'r adnoddau i weithredu mesurau ar gyfer amddiffyn diogynnod. Mae SloCo’n cyflogi 10 aelod staff llawn amser erbyn hyn yn un o daleithiau tlotaf Costa Rica ac mae wedi sefydlu ei hun fel awdurdod blaenllaw'r byd mewn cadwraeth ac ymchwil diogynnod.

I gydnabod ei gwaith, cafodd ei dewis fel un o enillwyr gwobr fawreddog Dyfodol i Natur yn 2022, a defnyddiodd arian y wobr 50,000 ewro i hyfforddi'r ci canfod carthion cyntaf ar gyfer monitro poblogaeth diogynnod. Erbyn hy mae hi’n arwain gwaith ar gyfrifiad poblogaeth diogynnod cynhwysfawr cyntaf y byd.

Mae Rebecca wedi ysgrifennu llyfr hynod boblogaidd (Life in the Slow Lane), wedi ymddangos ar raglenni Today a 60 Minutes ar NBC, ac, yn fwyaf diweddar, mae ei stori wedi'i throi'n llyfr stori i blant “The Adventures of Dr. Sloth”.