Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd er anrhydedd i’r gwyddonydd uchel ei barch Dr Rhodri Jones i gydnabod ei gyfraniadau neilltuol i faes ffiseg a’i gyflawniadau anhygoel fel Pennaeth Adran Belydrau CERN, y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear.

Yn ei rôl fel Pennaeth yr Adran Belydrau yn CERN, mae Dr Jones yn gyfrifol am weithrediad peiriannau cyflymu CERN, ynghyd â dyfeisio a dylunio cyflymyddion ffiseg gronynnau, systemau rheoli cyflymyddion, a mesureg geodetig a roboteg ar gyfer amgylcheddau cyflymyddion yn y dyfodol.

Er i Dr Jones gael ei eni yn Sir Gaerfyrddin, treuliodd ei blentyndod cynnar yn yr Iseldiroedd, a symudodd i Gaergrawnt pan oedd yn wyth oed. Serch hynny, roedd yn awyddus iawn i fyw yng Nghymru a thrwy fynd i’r brifysgol cafodd gyfle i gyflawni’r dymuniad hwnnw.

Ym 1992, cwblhaodd Dr Jones ei astudiaethau israddedig mewn Ffiseg ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe. Gan adeiladu ar ei gyflawniadau academaidd, parhaodd i astudio yn Abertawe gan wneud PhD mewn Ffiseg Atomig a Laserau. Ar ôl ennill ei ddoethuriaeth, dechreuodd ar bennod newydd ym 1996, gan ymuno â CERN i gyfrannu at ddatblygu systemau diagnostig ar gyfer y Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr (LHC) enwog.

Mae rôl Dr Jones yn CERN wedi bod yn amlweddog, gan gynnwys ymchwilio i dechnegau arloesol ar gyfer nodweddu pelydr gronynnau. Yn ogystal, roedd yn gyfrifol am roi system lleoli’r pelydr ar waith ar gyfer y Peiriant Gwrthdaro Hadronau Mawr (LHC), system fesur wasgaredig hollbwysig i reoli’r pelydr gronynnau yn effeithiol wrth iddynt gyflymu. Rhwng 2009 a 2020, arweiniodd Grŵp Offeryniaeth Pelydr yn CERN, gan feithrin cydweithrediad mewn technoleg cyflymyddion ymhlith sefydliadau a phrifysgolion Ewropeaidd.

Gwnaeth ei waith gynnwys cyfrannu’n uniongyrchol a chyfranogiad mewn rhaglenni gan yr Undeb Ewropeaidd. Yn 2021, derbyniodd Dr Jones swydd Pennaeth yr Adran Belydrau. Ar ben hynny, mae wedi cyfrannu ers amser maith at Ysgol Cyflymyddion CERN, lle mae’n traddodi darlithoedd yn rheolaidd ac yn hwyluso cyrsiau ymarferol, gan gyfrannu at hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o ffisegwyr a pheirianwyr cyflymyddion.

Wrth astudio yn Abertawe, cyfarfu Dr Jones â’i wraig, Sharon, ac mae ganddynt bedair merch, pob un wedi ei magu trwy gyfrwng y Gymraeg yn Ffrainc.

Wrth dderbyn ei ddyfarniad er anrhydedd, meddai Dr Jones: “Mae’n anrhydedd anferth derbyn y radd anrhydedd hon gan fy alma mater, Prifysgol Abertawe. Fyddwn i ddim wedi cyrraedd lle ydw i heddiw heb y sylfaen gadarn a roddwyd i mi gan Brifysgol Abertawe a’i hadran ffiseg yn ystod fy astudiaethau israddedig ac ôl-raddedig.

“Mae gan y brifysgol hanes hir o gydweithio â’r Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear (CERN) gyda llawer o gyn-fyfyrwyr wedi cynnal ymchwil neu dderbyn swyddi yno. Mae hyn yn parhau heddiw gyda phresenoldeb cryf o Abertawe ar arbrofion gwrthfater CERN ac fel rhan o dîm rheoli CERN.

“Ar ôl cael y pleser o groesawu’r Is-ganghellor, yr Athro Paul Boyle, ar ymweliad â CERN yn ddiweddar, rwy’n edrych ymlaen at ymdrech fywiog i gynnal y cysylltiadau cryf rhwng Prifysgol Abertawe â’r labordy ffiseg mwyaf yn y byd, i sicrhau ein bod yn parhau i elwa ar y graddedigion ardderchog a gynhyrchir ganddi. I’r perwyl hwn, rydyn ni’n gweithio ar fanylion digwyddiad rhwng CERN ac Abertawe ar hyn o bryd i arddangos gwaith ymchwil y naill a’r llall a nodi meysydd cydweithio newydd”.