Cafodd Ruth ei geni a’i magu yn y Gogledd. Ar ôl graddio o Brifysgol Lerpwl, dechreuodd gyrfa feddygol Ruth yn Lerpwl lle hyfforddodd fel meddyg teulu cyn symud i iechyd y cyhoedd. Roedd hi’n uwch ddarlithydd (cyfarwyddwr sylfaen ar gyfer gradd Meistr mewn Iechyd y Cyhoedd) cyn dod yn Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Lerpwl, swydd y bu ynddi am dros ddeng mlynedd. Aeth ymlaen i swyddi arweinyddiaeth yn Awdurdod Iechyd Strategol Swydd Gaer a Glannau Mersi, lefel ranbarthol gogledd-orllewin Lloegr ac yn yr Adran Iechyd, gan arwain y broses o drosglwyddo iechyd y cyhoedd i lywodraeth leol yn Lloegr, cyn dod yn Brif Swyddog Meddygol Cymru a Chyfarwyddwr Meddygol GIG Cymru. Ymddeolodd o’r swydd yn 2016. Roedd wedi ymrwymo i leihau anghydraddoldebau iechyd yn ei holl rolau.

Ar hyn o bryd, mae’n aelod anweithredol o Fwrdd Gofal Integredig y GIG yn Swydd Gaer a Glannau Mersi, yn Ddirprwy Gadeirydd y Sefydliad Iechyd ac yn ymddiriedolwr elusen The Reader. Bu’n gyfarwyddwr anweithredol ac yn ddirprwy gadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd am 7 mlynedd.

Mae hi’n gyfrannwr neu’n gadeirydd nifer o fyrddau cynghori polisi ac ymchwil gyda NIHR ac wedi bod yn ymwneud â chomisiynau annibynnol yng Nghymru a Lloegr. Mae wedi cymryd rhan mewn dau adolygiad gan y GIG ac ar hyn o bryd mae’n ymwneud â chomisiwn sy’n edrych ar y defnydd o’r gyfraith mewn argyfyngau iechyd cyhoeddus. Mae’n cadeirio Bwrdd Cynghori Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae ganddi swyddi a dyfarniadau er anrhydedd gan nifer o brifysgolion.

Ruth yw Uchel Siryf Glannau Mersi 23/24, mae’n byw yn ne Lerpwl, yn mwynhau cadw’n heini a choginio cynnyrch o’i rhandir.