Mae Dr Salah El-Sharkawi MBE yn oncolegydd ymgynghorol sydd wedi ymddeol ac yn gyfarwyddwr y gwasanaethau canser yng Nghanolfan Ganser De-orllewin Cymru. Derbyniodd ei radd feddygol o Brifysgol Cairo a'i radd ôl-raddedig mewn oncoleg (FRCR) o Lundain (1979).

Hyfforddodd mewn oncoleg yn Leeds a chafodd ei benodi'n oncolegydd ymgynghorol yn Abertawe ym 1980. Yn ogystal â'i waith clinigol mewn oncoleg, bu'n meithrin llawer o bartneriaethau ymchwil gydag adrannau gwahanol, mor eang â ffiseg feddygol, cemeg a bioleg, ym Mhrifysgol Abertawe a arweiniodd at sawl cyhoeddiad mewn cyfnodolion cenedlaethol a rhyngwladol. Roedd ei waith ymchwil yn canolbwyntio ar farcwyr tiwmor a ffarmacocineteg asiantau chemotherapiwtig mewn meinweoedd ac organau normal a chanser.

Prif ddiddordeb Dr El-Sharkawi oedd y rôl y gall entrepreneuriaeth feddygol glinigol ei chwarae wrth adfywio ei sefydliad, a gwella ansawdd gofal canser i'r boblogaeth yr oedd yn ei gwasanaethu. Arweiniodd hyn at sefydlu a datblygu Canolfan Ganser De-orllewin Cymru a oedd yn cynnwys: canolfan radiotherapi, uned cemotherapi, canolfan canser y fron, uned TG, sefydliadau ymchwil canser, hostel canser a'r uned ymddiriedolaeth canser gyntaf yng Nghymru i bobl ifanc yn eu harddegau.

Yn ei rôl fel cynghorydd oncoleg i'r Swyddfa Gymreig a'r Cynulliad Cenedlaethol, bu'n helpu i sefydlu'r achos busnes a darparu'r sicrwydd ansawdd ar gyfer creu Canolfan Ganser i'r Gogledd.

Cafodd ei waith clinigol, academaidd, ymchwil a rheoli ei gydnabod trwy lu o wobrau rhagoriaeth gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, cymrodoriaethau gan Brifysgol Metropolitan a Phrifysgol Abertawe ac MBE gan Ei Mawrhydi'r Diweddar Frenhines Elizabeth am ei wasanaethau i feddygaeth a gofal meddygol.