Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd er anrhydedd i’r arloeswr Ymchwil a Datblygu blaengar Dr Sharon James.
Yn wreiddiol o ardal Aberteifi, mae Sharon James yn aelod o Fwrdd Cwmnïau Gofal Iechyd a Biotechnoleg yn Sweden (Molnlycke), Denmarc (Novozymes) a Chanada (Algae-C) ar hyn o bryd lle mae’n ymdrechu’n ddiwyd i arloesi a gwella ansawdd bywyd defnyddwyr a chleifion. Mae’n credu’n gryf hefyd bod gennym ddyletswydd ddiamod i ofalu am yr amgylchedd ac mae’n cael dylanwad mawr bellach ar agendâu cynaliadwyedd byrddau ei chwmnïau ac yn eu hyrwyddo.
Mae ganddi flynyddoedd lawer o brofiad rhyngwladol ar lefel Prif Swyddog Technoleg/Bwrdd mewn cwmnïau byd-eang o’r radd flaenaf (Bayer, Reckitts, PepsiCo) lle mae wedi arwain a thrawsnewid timau Ymchwil a Datblygu byd-eang mawr yn y sectorau Nwyddau Cartref a Gofal Iechyd. Ei chenhadaeth bersonol erioed yw grymuso defnyddwyr a chleifion i wneud dewisiadau sy’n cefnogi eu hiechyd personol - gan gredu’n gryf bod y gallu i reoli eich iechyd a’ch lles eich hun yn hawl ddynol sylfaenol i bawb. I’r perwyl hwnnw, mae wedi darparu mentrau iechyd arloesol a thrawsnewidiol sydd wedi bod wrth fodd defnyddwyr yn rhyngwladol.
Mae hi’n eiriolwr cryf a llafar dros fenywod ym maes gwyddoniaeth ac yn mentora llawer o weithwyr proffesiynol benywaidd ifanc. Mae wedi ymrwymo i agor y drysau i addysg wyddonol i ferched ifanc drwy raglenni STEM a chychwynnodd y mudiad ‘Making Sense of Science’ ar ran Bayer USA i annog plant i astudio a chofleidio gwyddoniaeth.
Mae Sharon, yn garedig iawn, wedi sefydlu Bwrsariaeth Sharon James yn y Brifysgol sy’n cynnig pedair bwrsariaeth o £1,200 i fyfyrwyr benywaidd o Gymru sy’n astudio cyrsiau clinigol yn ein Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd. Mae’r cyrsiau hyn yn darparu’r setiau sgiliau sydd â’r galw mwyaf amdanynt yn y GIG i unigolion, ac maent yn cynnwys: Gwyddorau Gofal Iechyd, Nyrsio, Bydwreigiaeth, Gwyddor Barafeddygol, Therapi Galwedigaethol ac Ymarfer yr Adran Lawfeddygaeth.
Mae’r cynllun bwrsariaeth hwn yn dangos ymrwymiad cadarn Sharon i gefnogi pobl ifanc, yn enwedig menywod, drwy roi cyfle iddynt gyflawni eu potensial. A hithau o gefndir dosbarth gweithiol ei hun, mae’n deall yn llawn y rhwystrau a’r heriau a all ddeillio o gyfyngiadau ariannol. Mae Prifysgol Abertawe’n hynod ddiolchgar i Sharon am ddarparu’r cymorth hanfodol hwn a dyfarnwyd y set gyntaf o Fwrsariaethau Sharon James gennym yn 2023.
Mae Sharon James yn siarad Cymraeg. Mae ganddi deulu yn y Gorllewin o hyd ac mae’n ymweld yn aml i ymarfer ei Chymraeg.
Wrth dderbyn ei dyfarniad er anrhydedd, meddai Dr James: “Mae gwyddoniaeth a thechnoleg wedi rhoi mynediad at gyfleoedd i mi erioed ac rwy’n teimlo’n falch ac yn ddiolchgar fy mod i’n derbyn y wobr hon gan brifysgol mor arloesol a phwrpasol.”