Ei Ardderchogrwydd Ahmad Al Sayed yw Gweinidog Gwladol a Chadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Awdurdod Parthau Rhydd Qatar, a sefydlwyd i reoleiddio a hyrwyddo buddsoddi uniongyrchol o dramor (FDI) i Qatar. Yn ei rôl, mae'n annog mewnfuddsoddiad a hefyd fusnesau yn Qatar i wasanaethu marchnadoedd ledled y byd.
Mae ei Ardderchowgrwydd wedi bod yn Brif Swyddog Gweithredol Awdurdod Buddsoddi Qatar a Qatar Holding.Bu hefyd yn aelod o'r Cyngor Goruchaf ar gyfer Materion Economaidd a Buddsoddiad ac mae'r dyfarniad yn cydnabod ei gyfraniad at ddatblygu economaidd yn Qatar a ledled y byd.
Yn Awdurdod Buddsoddi Qatar chwaraeodd ran hanfodol wrth sefydlu, goruchwylio a rheoli Cronfa Gyfoeth Sofran Qatar. Yn ystod ei gyfnod, gweithredodd gytundebau fel buddsoddiad Awdurdod Buddsoddi Qatar/Qatar Holding yn Credit Suisse a Banc Barclays. Hefyd gwnaeth lywio uno VW â Porsche yn ogystal ag Xstrata a Glencore, rheolodd y broses o gymryd drosodd Songbird a Canary Wharf Group, a chaffael Harrods Group, Iberdrola Energy, Tiffany a maes awyr Heathrow.
Sefydlodd gynghrair â Phrifysgol Abertawe pan ymwelodd cynrychiolwyr o'r Brifysgol â Doha yn 2015, ac ers hynny mae wedi bod yn hyrwyddwr brwd o'r Brifysgol yn y gymuned fusnes ehangach.
Wrth dderbyn ei wobr er anrhydedd, meddai Ei Ardderchogrwydd: "Rwy'n hynod ddiolchgar ac mae'n anrhydedd cael y Ddoethuriaeth er Anrhydedd hon gan Brifysgol Abertawe, ac mae'n bleser mawr i mi ei derbyn, nid yn unig i mi fy hun ond ar ran pawb rwyf wedi gweithio gyda nhw.
"Rwy'n ystyried ei bod yn dangos cefnogaeth a chydnabyddiaeth am ein hymdrechion ar y cyd i hyrwyddo'r safonau uchaf o addysg ac amgylchedd gwaith y mae Qatar wedi bod yn falch o fod yn rhan ohonynt.
"Fel cyn Brif Swyddog Gweithredol Awdurdod Buddsoddi Qatar a Qatar Holding LLC, cefais y fraint o deithio i lawer o wledydd, gan weithio gyda nifer mawr o sefydliadau, a thrwy'r buddsoddiadau roedd modd i ni eu gwneud, gan gyfrannu'n sylweddol at ddatblygiad economaidd y gwledydd hynny. Nawr, fel Cadeirydd Awdurdod Parthau Rhydd Qatar, rwy'n annog cwmnïau a sefydliadau i fuddsoddi yn Qatar, ac i greu economi gynaliadwy ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
"Mae ein prifysgolion yn chwarae rhan bwysig yn ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, gan feithrin talent pobl ifanc a rhoi sgiliau gwerthfawr iddynt ffynnu.
"Rwyf wedi bod yn falch iawn o fod yn gysylltiedig â Phrifysgol Abertawe dros y blynyddoedd diwethaf, i weld ei hymrwymiad i addysg uwch, ac edrychaf ymlaen yn fawr at barhau â'n cysylltiadau agos yn y dyfodol."