Ganwyd y Tywysog Turki Al-Saud ym 1969, Riyadh Saudi Arabia. Mae'n aelod o deulu brenhinol Saudi Arabia. Y Tywysog Turki yw mab hynaf Llywodraethwr Jazan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Mohamed Bin Nasser Bin Abdul-Aziz Al-Saud. Graddiodd y Tywysog Turki yn y Wasg a'r Cyfryngau o Brifysgol y Brenin Saud, ac enillodd ei radd Meistr mewn Gweinyddu Busnes o Brifysgol Santa Clara, Califfornia.

Dechreuodd y Tywysog Turki ei yrfa fel cyfarwyddwr materion rhyngwladol yn y Weinyddiaeth Diwydiant a Thrydan a gafodd ei hailgyfansoddi yn 2000 i'r Weinyddiaeth Masnach a Diwydiant (MCI). Ers 2002, mae wedi bod yn Bennaeth Materion Rhyngwladol yr MCI. Ym mis Hydref 2015 mae llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi rhoi teitl "Llysgennad Ewyllys Da" i'r Tywysog Turki, i gydnabod ei rôl fawr yn gwasanaethu pobl Arabaidd, Asiaidd ac Affricanaidd ar y lefel ddyngarol.

Yn 2016 symudodd y Tywysog Turki i'r Weinyddiaeth Petroliwm ac Adnoddau Mwynau fel Pennaeth Rhyngwladoli.  Penodwyd y Tywysog Turki yn aelod llywodraethol Vison 2030 ar ran llywodraeth Jazan, yn Saudi Arabia ac yn 2017, dyfarnodd Prifysgol Abertawe Ddoethuriaeth mewn Llên i'w Uchelder Brenhinol y Tywysog am ei gefnogaeth am waith dyngarol rhyngwladol.