Eleanor 'Ellie' Simmonds OBE yw un o'r Paralympiaid mwyaf llwyddiannus yn y byd a menyw heb ei thebyg ym myd chwaraeon Prydain. Pencampwr Paralympaidd bum gwaith a Phencampwraig y Byd 14 bedair gwaith ar ddeg. Daeth enwogrwydd i ran Ellie pan enillodd ei medalau Paralympaidd cyntaf yng Ngemau Paralympaidd Beijing, a hithau’n ddim ond 13 oed, flwyddyn ar ôl iddi fod yr ieuengaf erioed i gynrychioli tîm nofio uwch Prydain ym Mhencampwriaethau'r Byd pan oedd yn 12 oed. Dyma gychwyn cyfres o wobrau cyntaf i Ellie wrth iddi fynd ymlaen i fod yr ieuengaf i ennill Personoliaeth Chwaraeon Ifanc y Flwyddyn y BBC yn 2008 a'r un ieuengaf erioed i dderbyn MBE pan oedd yn 14 oed.

Ar ôl bachu medalau aur 100m a 400m S6 yn Beijing '08, aeth Ellie gam yn well yng Ngemau Paralympaidd Llundain 2012, gan ennill pedair medal, gan gynnwys dwy Aur, a thorri dwy record Byd arall – y cyfan gyda'r pwysau o fod yn wyneb mwyaf adnabyddus y Gemau. Helpodd y llwyddiant hwn yn Llundain i sicrhau ei lle fel athletwr Paralympaidd enwocaf Prydain, os nad y byd. Yn Rio 2016, ymddangosodd Ellie ar frig y podiwm unwaith eto, gan ennill Aur arall ac wrth wneud hynny gosod record byd newydd ar gyfer y Medley Unigol SM6 200m, gan ddod y nofwraig S6 gyntaf erioed i nofio dan dair munud. Ymddeolodd Ellie o'r pwll yn 2021 ar ôl ei phedwerydd Gemau Paralympaidd yn Tokyo, gan orffen ei gyrfa gyda phum medal aur Baralympaidd anhygoel, yn ogystal â dwy fedal efydd, 14 teitl Byd, 10 teitl Ewropeaidd a thorri recordiau byd di-rif ar hyd y ffordd.

Mae Ellie wedi cipio calonnau a meddyliau'r cyhoedd ym Mhrydain, gan gydbwyso ei henwogrwydd gyda'i gwaith ysgol a'i hyfforddiant ddydd a nos. Mae gwaith Ellie y tu allan i'r pwll gydag elusennau fel y Dwarf Sports Association, WaterAid, y Sgowtiaid ac I AM WATER yn ogystal â'i gwaith cyson ar y cyfryngau, gan gynnwys ei chyfnod ysbrydoledig ac arloesol fel cystadleuydd Strictly Come Dancing y BBC, wedi sicrhau ei lle fel un o gymeriadau mwyaf poblogaidd Prydain. Ac mae ei llwyddiant yn pontio o fod yn seren chwaraeon i gyflwynydd rhaglenni dogfen wedi mynd o nerth i nerth, ar ôl ennill gwobr y Cyflwynydd Gorau yng Ngwobrau MIPCOM Cannes a Chyflwynydd 'Breakthrough' yng ngwobrau o fri Teledu Caeredin am ei rhaglen ddogfen 'A World Without Dwarfism' ar y BBC. Enillodd ei ffilm ddiweddaraf, 'My Secret Family', adolygiadau gwych a dyma oedd un o gomisiynau mwyaf llwyddiannus ITV yn 2023.