Cafodd Elin Manahan Thomas ei geni a’i magu yn Abertawe, ac astudiodd Eingl-Sacsoneg, Norseg a Chelteg yng Ngholeg Clare Caergrawnt 1995-1998, tra’n canu, teithio a recordio gyda chôr y capel hefyd. Dilynodd gwrs ôl-radd yn y Coleg Cerdd Brenhinol cyn datblygu gyrfa unigryw ym myd cerddoriaeth.
Mae’n fwyaf adnabyddus am ei dehongliad o repertoire baróc - yn fwyaf enwog yng Ngemau Paralympaidd Llundain 2012, a phriodas y Tywysog Harry a Meghan Markle yn 2018 - mae hi'r un mor adnabyddus am ei pherfformiadau o gerddoriaeth gyfoes a pherfformiadau cyntaf y byd, yn amrywio o John Rutter a John Tavener i Karl Jenkins. Mae wedi rhyddhau chwe record unigol, gyda recordiau Universal, Sain a Coro, ac wedi ymddangos ar lu o rai eraill gyda chorau byd-enwog fel The Sixteen, The Monteverdi Choir a Polyphony.
Yn ogystal â’i chanu, mae Elin yn adnabyddus fel cyflwynydd a darlledwr, gan ymddangos ar BBC Four, BBC Two a chyflwyno cyfres reolaidd ar BBC Radio 3. Arweiniodd ei brwdfrydedd dros addysg iddi ffurfio côr plant yn 2016, yn ogystal â chymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr a gweithdai ar gyfer sefydliadau fel Sefydliad Benedetti a’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol.
Yr angerdd hwn - am arwain ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf - a ysgogodd Elin, yn 2020, i ddechrau ar yrfa ym maes addysgu, ac mae hi bellach yn dod â grym llawn ei brwdfrydedd heintus i rôl newydd fel athrawes ysgol gynradd.