Elin Rhys yw sylfaenydd a chadeirydd Cwmni Cynhyrchu Telesgop. Ar ôl graddio mewn biocemeg, dechreuodd Elin ei gyrfa fel gwyddonydd gydag Awdurdod Dŵr Cymru yn monitro ansawdd dŵr yfed ac yn gwirio am lygredd. Ar ôl pum mlynedd, dechreuodd ar yrfa ddeng mlynedd fel gweithiwr llawrydd yn y cyfryngau gan ganolbwyntio i ddechrau ar gyflwyno ac ysgrifennu rhaglenni gwyddoniaeth ar gyfer S4C, BBC Radio Cymru a BBC Schools cyn symud i raglenni cyffredinol – gan gyflwyno rhaglenni dogfen, digwyddiadau byw a rhaglenni cylchgrawn ar gyfer sianeli amrywiol gan gynnwys S4C, HTV Cymru, BBC Cymru a BBC 2.
Sefydlodd Elin Telesgop ar y 4ydd o Fai 1993 ac mae wedi arwain y cwmni drwy gyfnodau da a gwael byth ers hynny, gan gyflogi 30 o staff parhaol ar gyfartaledd. Yn ei rôl fel Rheolwr Gyfarwyddwr mae wedi goruchwylio cannoedd o oriau o gynyrchiadau; rhaglenni dogfen ar BBC Cymru, BBC FOUR, S4C, Channel 4 a Discovery; cyfres gylchgrawn ar gyfer BBC Cymru ac S4C, darllediadau digwyddiadau byw ar gyfer y BBC a chyfres materion cyfoes ffermio flaenllaw S4C, Ffermio. Enillodd rhai ohonynt wobrau Bafta Cymru, ac roedd pob un ohonynt yn rhaglenni o safon. Yn dilyn pryniant gan y rheolwyr yn 2019 mae hi’n Gadeirydd y Cwmni erbyn hyn gydag amser i fynd ar drywydd ei chariad cyntaf – radio. Mae gan Telesgop gangen radio lwyddiannus sy’n cynhyrchu 700 awr o radio y flwyddyn. Mae Elin yn cynhyrchu ac yn cyflwyno rhai cyfresi ei hun, rhai gwyddoniaeth yn bennaf. Yn anad dim, mae’n falch o fod wedi sefydlu cwmni gwirioneddol annibynnol yng Nghymru a galluogi cymaint o bobl ifanc, dalentog, i ymuno â’r diwydiant ac aros yn eu cymunedau yng Ngorllewin Cymru.