Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu doethuriaeth mewn llenyddiaeth er anrhydeddi i Euros Lyn, cyfarwyddwr arobryn rhaglenni teledu a ffilmiau, sy’n cynnwys Doctor Who, Happy Valley, Black Mirror, Broadchurch, a Heartstopper.

Cafodd Euros Lyn ei eni yng Nghaerdydd ym 1971, a’i fagu yn Guyana yn Ne America, yng Ngwynedd  ac yn Ynystawe yng Nghwm Tawe. Cafodd ei addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Ystalyfera, cyn graddio gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Drama o Brifysgol Manceinion.

Ar ôl cwblhau ei radd, gweithiodd Euros Lyn fel cyfarwyddwr cynorthwyol ar raglenni Cymraeg ar gyfer S4C. Aeth ei yrfa i lefel arall pan gafodd ei benodi’n gyfarwyddwr ochr yn ochr â Russell T. Davies, uwch-gynhyrchydd a anwyd yn Abertawe ar gyfres Doctor Who wrth iddi gael ei hail-lansio yn 2005. Cyfarwyddodd 12 pennod rhwng 2005-2010, gan ennill Gwobr BAFTA Cymru am y Cyfarwyddwr Gorau a Gwobr Hugo.

Mae Euros Lyn wedi ennill gwobr BAFTA Cymru am y Cyfarwyddwr Gorau sawl gwaith, yn fwyaf diweddar am Kiri, gyda Sarah Lancashire. Yn ogystal, cyfarwyddodd Fifteen Million Merits, rhan o’r antholeg Black Mirror ar gyfer Channel 4, a enillodd Emmy Rhyngwladol am y Gyfres Ddrama Orau.

Cyfarwyddodd dair pennod o gyfres gyntaf Broadchurch, dwy gyfres o Last Tango yn Halifax, pennod beilot Happy Valley, a Damilola, Our Loved Boy, rhaglen ddrama untro, ac enillodd pob un o’r pedair rhaglen wobrau BAFTA.

Yn 2015 derbyniodd Wobr Siân Phillips BAFTA Cymru am gyfraniad arwyddocaol at ffilm nodwedd fawr neu raglen deledu rhwydwaith – yr unig gyfarwyddwr hyd yma i dderbyn y wobr flaenllaw hon.

Mae Euros Lyn wedi cyfarwyddo tair ffilm hir hefyd. Yn 2016, cyfarwyddodd Y Llyfrgell/ The Library Suicides, ffilm ias a chyffro a ddefnyddiodd Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth fel y lleoliad annhebygol ar gyfer llofruddiaeth a chynllwyn. Yn dilyn ei dangosiad cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Sundance, cafodd ei ffilm, Dream Horse, gyda Toni Collette a Damian Lewis, ei rhyddhau mewn theatrau yn 2021, gan ddilyn stori wir Dream Alliance, ceffyl rasio annhebygol a gystadlodd yn Grand National Cymru yn y pen draw. Bydd ei ffilm ddiweddaraf, The Radleys, sy’n seiliedig ar nofel fampirod Matt Haig, yn cael ei rhyddhau y flwyddyn nesaf ar Sky Cinema.

Yn ei gyfres boblogaidd ddiweddaraf ar y sgrn fach, Heartstopper, cyfres LHDTC+ sy’n dilyn hynt a helynt criw yn eu harddegau wrth iddyn nhw dyfu i fyny, mae Euros Lyn wedi ailgydio mewn deunydd sy’n amlwg yn bwysig iddo ar lefel ddyfnach – gan adlewyrchu’r heriau emosiynol a chymdeithasol y mae pobl ifanc yn eu hwynebu yn yr 21ain ganrif a rhoi llais iddynt. Yn seiliedig ar nofelau graffig Alice Oseman, mae’r gyfres Netflix gadarnhaol a hynod lwyddiannus yn bortread gwirioneddol ond calonogol o stori gariad Charlie a Nick a phrofiadau perthynas newidiol eu ffrindiau yn eu harddegau.

Heddiw, er gwaethaf gyrfa ar y llwyfan rhyngwladol, mae Euros wedi ymgartrefu yma yn y De, ac yn byw yn Llangynydd gyda’i ŵr Craig, a’i gi, Brychan.

Wrth dderbyn ei ddyfarniad er anrhydedd, meddai Euros Lyn: “Mae’n bleser gen i dderbyn gradd er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe, ac rwy’n gyffrous cael bod yn rhan o Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu’r brifysgol, sy’n addysgu a hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o ysgrifenwyr, cyfarwyddwyr a thechnegwyr i greu sioeau teledu a ffilmiau poblogaidd y dyfodol.”