Mae'r seren o Gymru, Eve Myles, wedi cael gyrfa helaeth ar y sgrin, ac yn fwyaf diweddar bu'n serennu yn y ffilm arswyd THE CROW GIRL i Paramount + a HIJACK Apple TV gydag Idris Elba. Mae ei chredydau blaenorol yn cynnwys rôl y prif gymeriad Faith mewn tair cyfres o KEEPING FAITH (sioe i'r BBC a dorrodd sawl record), dwy gyfres o WE HUNT TOGETHER, A VERY ENGLISH SCANDAL, COLD FEET, VICTORIA a BROADCHURCH. Chwaraeodd Eve rôl boblogaidd Gwen Cooper yn y clasuron cwlt DOCTOR WHO a 4 cyfres o TORCHWOOD.

Mae gwaith theatr Eve yn cynnwys ALL NEW PEOPLE Zach Braff yn the Duke of York's Theatre, HENRY IV Parts 1 & 2 yn y National Theatre gyda Michael Gambon, a sawl rôl flaenllaw yn yr RSC, gan gynnwys Bianca yn THE TAMING OF THE SHREW a Lavinia yn TITUS ANDRONICUS, ac enillodd Wobr Ian Charleson am ei pherfformiad.