Daeth Gerald Davies yn 50fed Llywydd Undeb Rygbi Cymru ym mis Hydref 2019, pan gymerodd yr awenau gan gyn aelod arall o dîm Gleision Caergrawnt, Dennis Gethin.
Ac yntau yw wythfed cyn chwaraewr rhyngwladol Cymru i gyrraedd y brif swydd ym myd rygbi Cymru, enillodd y cyntaf a'r olaf o'i 46 o gapiau dros Gymru yn erbyn Awstralia. Cafodd ei gap cyntaf yng Nghaerdydd ar 3 Rhagfyr, 1966, a chwaraeodd am y tro olaf dros Gymru yn Sydney ar 17 Mehefin 1978, pan oedd yn gapten ar dîm Cymru am yr eildro - roedd y tro cyntaf yn erbyn Tonga.
Enillodd dri chap i dîm Gleision Caergrawnt wrth astudio Llenyddiaeth Saesneg yng Ngholeg Emmanuel (lle cafodd ei anrhydeddu â Chymrodoriaeth er Anrhydedd yn 2011). Bu'n gapten ar Gaergrawnt ym 1970. Bryd hynny roedd eisoes wedi ennill capiau dros Gymru a Llewod Prydain ac Iwerddon. Chwaraeodd mewn pum prawf dros y Llewod ar deithiau 1968 (1) a 1971 (4) i Dde Affrica a Seland Newydd yn y drefn honno. Sgoriodd dri chais prawf dros y Llewod ac, ar y pryd, 20 cais dros Gymru, a oedd yn gyfwerth â'r record, wrth iddo helpu ei wlad i ennill y Gamp Lawn a’r Goron Driphlyg ym 1971, 1976 a 1978 a rhagor o Goronau Triphlyg ym 1969 a 1977.
Dechreuodd ei yrfa chwarae gyda Llanelli ac yn ddiweddarach bu'n chwarae rygbi clwb i Gymry Llundain a Chaerdydd. Bu'n gapten ar Gaerdydd am dri thymor yn olynol a oedd yn cynnwys tymor canmlwyddiant y clwb ym 1976/77.
Bu'n aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr URC am naw mlynedd rhwng 2005-14, ac yn ystod y cyfnod hwnnw roedd yn aelod o fyrddau'r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol a Llewod Prydain ac Iwerddon, roedd yn Rheolwr taith y Llewod i Dde Affrica yn 2009 a rhwng 2009 a 2015 ef oedd y Cadeirydd.
Yn 2015, cafodd ei urddo i Neuadd Enwogion Rygbi'r Byd a daeth yn gadeirydd y Guinness PRO14. Cafodd ei urddo'n CBE yn 2002 am ei wasanaethau i bobl ifanc a rygbi yng Nghymru - roedd yn gadeirydd Asiantaeth Ieuenctid Cymru ar y pryd - a daeth yn Ddirprwy Raglaw Gwent. Mae ganddo Gymrodoriaethau er Anrhydedd o Brifysgol De Cymru, Aberystwyth, Caerdydd, Llanbedr Pont Steffan (y Drindod Dewi Sant erbyn hyn), Prifysgol Metropolitan a Phrifysgol Wrecsam Glyndŵr, a Doethuriaethau er Anrhydedd gan Brifysgolion Loughborough ac Abertawe am wasanaethau i chwaraeon a newyddiaduraeth.
Mae Gerald yn briod â Cilla. Mae ganddynt ddau o blant, Emily a Ben, a phedwar o wyrion.