Ganwyd Gerald Gabb yn Uplands Abertawe ym 1950 a'i fagu ger pentref Newton.
Mynychodd ysgolion cynradd yn Newton a'r Mwmbwls, yna Ysgol Uwchradd Sirol Dynevor yng nghanol y dref, lle cafodd wersi hanes rhagorol y mae'n fythol ddiolchgar amdanyn nhw.
Astudiodd am radd B.A. mewn hanes ym Mhrifysgol Hull a Choleg Prifysgol Abertawe fel yr oedd yn cael ei adnabod ar y pryd. Yna treuliodd flwyddyn yn cyflawni M.A. ar “Lord Salisbury at the Constantinople Conference, 1876-77”, dan oruchwyliaeth Muriel Chamberlain – profiad ardderchog. Wedi hynny dilynodd gwrs TAR yn y Coleg, pan oedd yr adran yng ngofal Lionel Ward a Gareth Elwyn Jones.
Gweithiodd am ddeng mlynedd (1973-1983) fel Pennaeth Adran Hanes Ysgol Gyfun Iau Llansamlet. Rhwng 1983 a 2009 bu'n Swyddog Addysg gyda Gwasanaeth Amgueddfeydd Abertawe, yn trefnu ac yn addysgu dan faner 4Site Education, a oedd yn cynnwys dwy amgueddfa, Oriel Gelf Glynn Vivian a Plantasia. Roedd yn alwedigaeth eithriadol o brysur, ond mae'n ddigon ffodus i allu dweud iddo fwynhau ei waith yn fawr.
Datblygodd ddiddordeb brwd mewn hanes lleol, ac mae wedi ysgrifennu llu o erthyglau ar gyfer cyfnodolion lleol ers y 1970au, yn enwedig Gower, ac yn fwy diweddar ar gyfer cyfnodolion Cymreig - Llafur, Maritime Wales, Cymmrodorion Transactions a'r Welsh History Review.
Mae wedi cyhoeddi llyfrau ar y Mwmbwls (1986), Rheilffordd y Mwmbwls (1987), Abertawe yn y 1890au (1997 a 1999) a hanes cyffredinol "Swansea and its History" (2007, 2019).
Mae wedi bod yn aelod o Gyngor Sefydliad Brenhinol De Cymru ers 1983 ac ar hyn o bryd (2024) mae'n olygydd ei gylchgrawn hanes blynyddol am Abertawe, sef 'Minerva'. Mae'n gefnogwr brwd o hanes manwl gywir sydd hefyd yn hygyrch i aelodau o'r cyhoedd sydd â diddordeb yn y maes. Adlewyrchir hyn yn nigwyddiadau blynyddol Sefydliad Brenhinol De Cymru fel y Diwrnod Hanes a'r Ffair Lyfrau Hanes Lleol blynyddol, a'r stondin sydd ganddo ym Marchnad Abertawe dros y pedwar Nadolig diwethaf.