Ganed Gillian Clarke yng Nghaerdydd, ac mae’n byw mewn tyddyn yng Ngheredigion, lle mae hi a’i gŵr, sy’n bensaer, wedi plannu 10,600 o goed brodorol. Hi oedd Bardd Cenedlaethol Cymru, 2008-2016, dyfarnwyd medal Aur y Frenhines am Farddoniaeth iddi yn 2010, a Gwobr Arbennig Prif Weinidog Cymru yn 2023. Hi yw Llywydd Tŷ Newydd, canolfan awduron Cymru, a sefydlodd ar y cyd. Cyhoeddiadau diweddar: Selected Poems, Picador, 2016, Roots Home, Essays and a Journal, Carcanet, 2021, ei fersiwn o gerddi Cymraeg y 7fed ganrif, Y Gododdin, Faber, 2021, a The Silence, ei degfed casgliad o gerddi, Carcanet, Gwanwyn, 2024.