Ganed Gwenda Thomas yng Nghastell-nedd ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Pontardawe. Mae’n fwyaf adnabyddus am ei rôl fel gwleidydd Llafur Cymreig ac mae wedi ymwneud â bywyd a diwylliant yr ardal y bu’n gwasanaethu ynddi.
Cyn hyn roedd hi’n was sifil, ar ôl gwasanaethu yng nghangen y Llysoedd Sirol yn Adran yr Arglwydd Ganghellor ar y pryd fel Swyddog Gweithredol, ac yna yn yr Asiantaeth Budd-daliadau.
Cynrychiolodd ei phentref genedigol, Gwauncaegurwen, fel Cynghorydd Cymuned a Sir am flynyddoedd lawer. Fe’i penodwyd yn Gadeirydd Pwyllgorau Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg, a hi oedd y fenyw gyntaf i gadeirio pwyllgor mawr ac, yn sgil ad-drefnu llywodraeth leol, bu’n cadeirio Pwyllgor Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
Tan iddi gael ei phenodi’n weinidog yn 2007, Gwenda oedd Cadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol Gynradd Gwauncaegurwen.
Yn ystod y Cynulliad cyntaf (1999-2003), hi oedd Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Yn yr ail Gynulliad (2003-2007), hi oedd Cadeirydd Pwyllgor Cyfle Cyfartal y Cynulliad a chafodd ei phenodi ym mis Rhagfyr 2003 gan Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan AC, i gadeirio adolygiad Diogelu Plant Agored i Niwed. Cyhoeddwyd adroddiad yr adolygiad – Ein Cadw’n Ddiogel – ym mis Mai 2006.
Yn 2007, yn ystod y Trydydd Cynulliad, cafodd ei phenodi’n Ddirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Cadwodd swydd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol pan gyhoeddwyd llywodraeth glymblaid Llafur a Phlaid Cymru ym mis Gorffennaf.
Yn y Pedwerydd Cynulliad, bu’n Ddirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac ymhlith ei chyfrifoldebau roedd gofal plant, cronfeydd ymddiriedolaeth plant a rhaglenni rhianta. Roedd yn gefnogwr gweinidogol blaenllaw i’r Mesur Hawliau Plant, a gymeradwywyd gan y Cynulliad yn 2011, sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion roi sylw dyledus i hawliau plant, fel y’u diffinnir yn Siarter y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, wrth wneud penderfyniadau, datblygu polisïau a llunio deddfwriaeth ym mhob maes. Bu’n gweithio ar draws gagendor gwleidyddol y Cynulliad ac roedd ganddi rôl allweddol, ar y cyd â Helen Mary Jones, wrth sicrhau bod y Cynulliad yn cael cyfle i bleidleisio ar Fesur Hawliau Plant cryf a dylanwadol a’i basio.
Yn ystod ei thymor olaf yn y Cynulliad roedd Gwenda’n falch o arwain ar Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 sydd wedi gosod y trywydd ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru ac fe gafodd ei chalonogi gan y consensws gwleidyddol eang a welwyd wrth basio’r ddeddfwriaeth hon.
Bu’n noddwr Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc ym Mhrifysgol Abertawe a dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd iddi gan Brifysgol Abertawe. Mae’n aelod o Orsedd y Beirdd hefyd.