Actores a darlledwraig yw Gwenyth Petty. Mae ei gwreiddiau yng Nghrug-y-bar yng nghefn gwlad Sir Gâr a thref fwy diwydiannol Maesteg yn Sir Forgannwg.

Roedd hi'n blentyn swil, ond wrth ei bodd yn gwrando ar y weiarles oedd ymlaen yn gyson ar yr aelwyd ac yn ffynhonnell ddiddiwedd o adloniant gan gynnwys 'Children's Hour' a 'Saturday Night Theatre'.

Yn ystod y rhyfel, gwahoddwyd sêr mawr y dydd i ddiddanu'r glowyr yn Neuadd y Dref Maesteg a'r Theatr Fach lle bu mam Gwenyth yn helpu tu ôl i'r llenni. Fe wnaethon nhw i gyd aros dros nos yng nghartre'r teulu Petty, a gadawodd hynny gryn argraff ar y Gwenyth ifanc.

Mae Gwenyth yn canmol yr athrawon niferus hynny a welodd lawer mwy ynddi nag y gwnaeth ei hun erioed. Dewisodd y weiarles gan ei bod hi'n gallu adrodd straeon a pharhau'n ddienw ar yr un pryd, ond daeth o hyd i'r hyder i fynychu clyweliadau - ac un o'i rolau cynnar oedd yn 'Heidi'.

Mynychodd Ysgol Rose Bruford ac yna RADA, Coleg Brenhinol y Celfyddydau Dramatig. Ond dechreuodd ei gyrfa go iawn yn Abertawe, a hynny yn Stiwdios y BBC, yn Uplands ac ar Heol Alexandra, lle byddai'n perfformio'n fyw i'r genedl ar y radio. Un diwrnod gofynnwyd iddi ddarllen i fardd yn yr ystafell drws nesaf: Dylan Thomas.

Hi yw'r unig aelod o brif gast Under Milk Wood sy'n dal yn fyw, cynhyrchiad a ddarlledwyd yn fyw ar 'Third Programme' y BBC ochr yn ochr â Richard Burton, cyn mynd ymlaen i fod yng nghast Under Milk Wood yn Theatr y Globe Llundain. Roedd hi'n aelod o'r BBC Repetory Company lle cafodd ei throchi yn yr holl glasuron o Ibsen i Shakespeare a chlasuron Cymraeg fel Saunders Lewis.

Mae ganddi restr hir o ymddangosiadau ffilm a theledu. Un yn benodol yw'r ffilm 'David' a wnaed ym 1951 gan Paul Dickson a'i lleoli yn nhref lofaol Rhydaman. Hyd heddiw, mae 'David' yn cael ei ystyried fel y ffilm orau a wnaed erioed yng Nghymru. Mae ei pherfformiadau eraill yn cynnwys 'Theory of Flight' gyda Kenneth Branagh, 'The Dark' gyda Sean Bean a 'Very Annie Mary' gyda Kenneth Griffith.  Mae ei rolau teledu'n cynnwys 'Teulu' ar S4C a 'Mortimer's Law' ar gyfer BBC One.

Mae hi'n falch tu hwnt o'i Gwisg Wen yng Ngorsedd Beirdd yr Eisteddfod Genedlaethol.

Wrth dderbyn ei gradd er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe, dywedodd Gwenyth Petty: “Cefais fy syfrdanu'n llwyr pan glywais am y dyfarniad hwn; wy' dal ddim cweit yn gallu credu’r peth ond rwy'n ddiolchgar tu hwnt ac yn aruthrol o falch... Diolch o galon Prifysgol Abertawe!'