Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflwyno dyfarniad er anrhydedd i Helen Howson, ffigwr amlwg ym myd iechyd a gofal.
Mae Helen yn ymgynghorydd iechyd y cyhoedd sy’n meddu ar brofiad helaeth o iechyd y cyhoedd, polisi iechyd a chynllunio strategol a chyflawni strategol yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Hi yw Cyfarwyddwr Comisiwn Bevan, y Felin Drafod flaenllaw ar gyfer Iechyd a Gofal yng Nghymru, wedi’i lleoli yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, lle mae’n darparu cyngor annibynnol i’r Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac yn helpu i roi’r cyngor hwnnw ar waith ledled Cymru. Roedd Helen yn ddylanwadol hefyd wrth sefydlu Academi Bevan ac Arloeswyr Bevan ac wrth arwain yr agenda ar gyfer arloesi a thrawsnewid.
Cyn hynny, cyflawnodd Helen sawl swydd uwch y n Swyddfa’r Prif Swyddog Meddygol, Awdurdod Hybu Iechyd Cymru a Churiad Calon Cymru. Mae wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu, rheoli a gwerthuso rhaglenni a chontractau iechyd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan gynnwys Rhaglenni Iechyd Cyhoeddus Ewropeaidd, cyd-gadeirio un o Grwpiau Cynghori’r Undeb Ewropeaidd a rheoli Prosiect Ewropeaidd Pum Gwlad ar Anghydraddoldebau Iechyd. Mae wedi darparu arbenigedd cenedlaethol a rhyngwladol i Sefydliad Iechyd y Byd, yr Undeb Ewropeaidd a systemau gofal iechyd a llywodraethau eraill, gan gynnwys Gweinidogaethau Iechyd Rwsia, Seland Newydd a Sbaen.
Cydgynlluniodd Helen raglen Meistr Iechyd Cyhoeddus Sefydliad Iechyd y Byd ym Mhrifysgol Karolinska, Stockholm ac addysgu arni am dros ddeng mlynedd a hi oedd Cyfarwyddwr Rhaglen Arweinyddiaeth Ôl-raddedig ar gyfer meddygon a deintyddion ym Mhrifysgol Bryste.
Drwy ei gwaith diflino a’i brwdfrydedd, mae Helen Howson wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i faes darparu ac addysgu iechyd a gofal, yng Nghymru a thramor, ac mae’n wych bod ganddi gysylltiad mor gryf â Phrifysgol Abertawe drwy ei rôl gyda Chomisiwn Bevan.
Ar ôl derbyn ei dyfarniad er anrhydedd, meddai Helen: “Rwy’n teimlo’n falch ac yn freintiedig iawn wrth dderbyn y dyfarniad uchel ei fri hwn gan Brifysgol Abertawe i gydnabod fy ngwaith ym maes iechyd. Fel Cyfarwyddwr Comisiwn Bevan, rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y cysylltiadau a’r gefnogaeth gref sydd gennym gyda Phrifysgol Abertawe a’r cyfleoedd y mae hyn yn eu cynnig wrth gryfhau addysgu ac ymchwil ar draws polisi ac ymarfer.”