Ganwyd Howard Morgan yn y Crwys, Abertawe. Bu'n aelod Annibynnol o Gyngor Gŵyr a Chyngor Dinas Abertawe o 1970 tan 2004 pan benderfynodd roi'r gorau iddi. Yn ystod y cyfnod hwnnw bu'n cadeirio sawl pwyllgor gan gynnwys y Pwyllgor Celfyddydau a Hamdden rhwng 1975 a 1980 a bu'n gwasanaethu fel Llywodraethwr sawl Ysgol yn ei etholaeth yng Ngogledd Gŵyr.

Fe'i penodwyd yn Ynad ym 1975 a daeth yn Gadeirydd y Fainc yn 2004 ar ôl cadeirio Pwyllgor Prawf Gorllewin Morgannwg a Chymdeithas Ynadon Gorllewin Morgannwg y mae bellach yn Is-lywydd Oes arni.

Bu'n Arglwydd Faer Abertawe ym 1988/89 ac fe'i gwnaed yn Henadur er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe yn 2005.

Mae ganddo gysylltiad â Phrifysgol Abertawe sy'n ymestyn yn ôl 42 o flynyddoedd. Mynychodd ei gyfarfod cyntaf o Lys Coleg Prifysgol Abertawe ym 1975 a chafodd ei ethol yn aelod o'r Cyngor ychydig flynyddoedd wedyn. Mae'n aelod o'r Llys ers y dyddiad hwnnw a bu'n aelod o'r Cyngor tan fis Rhagfyr 2015 pan gafodd ei benodi'n Llywodraethwr Anrhydeddus. Yn ystod ei gyfnod yn y Brifysgol, mae wedi meithrin diddordeb arbennig yng ngwaith Undeb y Myfyrwyr ac fe'i hetholwyd yn Ymddiriedolwr yn 2009, swydd y mae ynddi o hyd. Mae’n cadeirio Ymddiriedolwyr Cronfa Bensiwn Prifysgol Abertawe, y Panel Buddsoddi a'r Pwyllgor Lles Anifeiliaid ac Adolygiad Moeseg hefyd yn ogystal ag eistedd ar Bwyllgorau eraill.

Roedd yn aelod gwreiddiol a chadeirydd achlysurol Gŵyl Gŵyr. Roedd yn Gadeirydd Gŵyl Gerdd a Chelfyddydau Abertawe rhwng 1995 a 2004 hefyd ac mae'n parhau i eistedd ar ei Bwrdd Gweithredol.

Ar hyn o bryd mae'n Is-lywydd Côr Dynfant, yn Llywydd Oes Cymdeithas Amaethyddol Gŵyr, yn Is-lywydd Clwb Ffermwyr Ifanc Morgannwg ac yn aelod Gweithredol o Gymdeithas Cominwyr Gŵyr.

Bu'n aelod o Awdurdod Heddlu'r De rhwng 1994 a 2004.

Am bron i 30 mlynedd bu'n Gomisiynydd Cyffredinol Cyllid y Wlad. Mae'n Llywydd NSPCC Abertawe a Gorllewin Morgannwg.

Ymhlith ei swyddi eraill oedd aelodaeth o Gymdeithas Ddarlledu Annibynnol Cymru, Panel Celf Cyngor y Celfyddydau a thymor fel Llywodraethwr Opera Cenedlaethol Cymru.

Mae Howard Morgan yn Gyfarwyddwr busnes ffermio ac eiddo teuluol sydd yn ei bumed genhedlaeth o berchnogaeth deuluol erbyn hyn.

Wrth dderbyn ei wobr, dywedodd Mr Morgan: “Rwyf wedi bod yn gysylltiedig â Phrifysgol Abertawe ers 42 mlynedd a mwy. Ar 28 Tachwedd 1975 mynychais fy nghyfarfod cyntaf o Lys Coleg Prifysgol Abertawe ac ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach cefais fy ethol yn aelod o'r Cyngor. Rwy'n aelod o'r Llys ers y dyddiad hwnnw a bues i'n aelod o'r Cyngor tan fis Rhagfyr 2015 pan gefais fy mhenodi'n Llywodraethwr Anrhydeddus. Rwy'n parhau i wasanaethu fel Cadeirydd nifer o bwyllgorau'r Brifysgol.

Yn ystod y cyfnod hwn rwyf wedi meithrin cysylltiad arbennig â gwaith Undeb y Myfyrwyr ac roeddwn wrth fy modd o gael fy ethol yn Ymddiriedolwr yn 2009 ac rwy'n parhau yn y rôl honno. Rwy'n edrych ymlaen at weld twf cyfleusterau'r myfyrwyr bob blwyddyn ac mae’n wych bod dros 120 o glybiau a chymdeithasau ar y campws erbyn hyn.

Bod yn rhan o'r grwpiau trafod a arweiniodd at ddatblygu Campws y Bae roddodd y boddhad mwyaf yn y blynyddoedd diwethaf. Rwy'n falch fy mod wedi gwneud cyfraniad bach at sicrhau lle Prifysgol Abertawe yn yr 21ain ganrif; gan ennill teitl prifysgol orau Cymru yn 2017 a'i gweld yn cael cydnabyddiaeth fyd-eang fel canolfan rhagoriaeth ymchwil ac addysgu.

Mae Campws y Bae wedi ategu gwaith uwchraddio ac ehangu safle Singleton ac mae'r datblygiadau hyn wedi helpu i droi Prifysgol Abertawe’n brifysgol fyd-enwog fel y mae hi nawr.

Ym 1975, feddyliais i erioed y byddai fy nghysylltiad â'r brifysgol yn parhau i'r 21ain ganrif ond rwy'n falch iawn o hynny. Rwy'n falch fy mod wedi bod yn rhan o'r broses drawsnewidiol hon ac wedi mwynhau pob rhan o'r daith fwy neu lai. Rwy'n edrych ymlaen at fwy o flynyddoedd cyffrous i ddod.”