Ganed Huw Chiswell yng Nhwm Tawe a’i fagu ym mhen uchaf y cwm ym mhentref Godre’r Graig. Ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe, derbyniodd swydd fel Ymchwilydd Rhaglenni gyda chwmni teledu ITV ac ymgartrefu yng Nghaerdydd.

Maes o law cafodd ei apwyntio gan y cwmni yn Gynhyrchydd/ Gyfarwyddwr a bu’n gyfrifol am ystod helaeth o raglenni a chyfresi yn Y Gymraeg a’r Saesneg. Yn ogystal â hyn, datblygodd hefyd yrfa fel Awdur, actor, Cyflwynydd Rhaglenni a Chanwr/ Gyfansoddwr.

Derbyniodd lawer o’r rhaglenni a gynhyrchwyd, cyfarwyddwyd ac ysgrifenwyd gan Huw wobrau rhyngwladol, gan gynnwys Medal Aur yng Ngwyl Ffilm A Theledu Efrog Newydd. Yn agosach at gartref, cafodd hefyd ei anrhydeddu gyda Gwobr Arbennig BAFTA am Gyfraniad I Adloniant.

Cychwynodd ddiddordeb Huw ym myd Drama pan gafodd gynnig prif ran gwrywaidd y ffilm gwlt, eiconig Ibiza! Ibiza! Aeth Huw ymlaen i gynhyrchu cyfres o chwe Ffilm Ddrama gan hefyd gyd-ysgrifennu un ohonynt. Daeth ei ddiddordeb yn y maes i’r golwg eto yn hwyrach yn ei yrfa wrth iddo gychwyn gyrfa newydd fel Cyfarwyddwr Drama.

Yn 23ain oed, enillodd Huw wobr Cân I Gymru am ei gân o foliant i’w gwm genedigol, cân sydd hefyd yn trafod yr heriau sy’n wynebu pob cwm a chwmwd yn y Gymru sydd ohoni. Arweiniodd fuddugoliaeth Y Cwm at gytundeb i recordio albwm o ganeuon, y cyntaf o’r chwech oedd i ddilyn yn ogystal â’r ymddangosiadau teledu lu a’r teithiau mynych trwy Gymru benbaladr. Mae nifer o’r caneuon cynnar hynny bellach wedi’u trefnu ar gyfer corau a phartïon cerdd amrywyiol ac yn cael eu canu ar hyd a lled y wlad hyd heddiw.

Tua’r un cyfnod, gwahoddwyd Huw i gyfansoddi cân arbennig ar gyfer ymgyrch Band Aid i gefnogi’r ymateb elusennol i newyn trychinebus Ethiopia yr 80au. Cyfranodd y gân Dwylo Dros Y Môr lawer i’r ymgyrch gan hefyd esgyn i Sart Senglau y DU, y gân Gymraeg gyntaf i lwyddo yn hyn o beth.

Erbyn heddiw mae sawl casgliad o weithiau Huw, wedi’u trefnu ar gyfer piano, llais a chorau wedi eu cyhoeddi. Yn fwy diweddar cyhoeddwyd ganddo ffurf ar hunangofiant o’r enw Shwma’i Yr Hen Ffrind, cyfrol sy’n cynnig golwg ar rai agweddau o’i fywyd trwy lens rhai o’i ganeuon mwyaf adnabyddus.

Symudodd Huw o’i swydd gyda ITV ar ôl derbyn rôl gyda Prospect Pictures, cwmni teledu annibynnol Llundeinig ac yn fuan wedyn derbyniodd gynnig i ymuno â’r darlledwr S4C fel Comisiynydd Rhaglenni Adloniant a Cherddoriaeth. Maes o law, ychwanegwyd Rhaglenni Ieuenctid at ei gyfrifoldebau.

Yn dilyn ei gyfnod o saith mlynedd gyda’r darlledwr, cychwynodd Huw ei gwmni cynhyrchu teledu ei hun gan ganolbwyntio bellach ar gynnwys Drama. Fel cyfarwyddwr, ei gynhyrchiad diweddaraf, Dal Y Mellt (Rough Cut) yw’r gyfres Gymraeg gyntaf i gael ei phrynu gan y cwmni ffrydio rhyngwladol, Netflix.

Er ei holl weithgaredd amrywiol ym myd teledu, gwir gariad Huw yw cerddoriaeth a llenyddiaeth. Y cariad hwn, ynghyd â’i hiraeth am gymdeithas ddihangol ei febyd sydd wedi ysbrydoli ei allbwn creadigol. Mae’n mynnu mai ei anrhydedd fwyaf erioed oedd mynychu yn ddiweddar cynhyrchiad o sioe gerdd yn seiliedig ar ei fywyd a’i ganeuon. Perfforiwyd y sioe gan gast o ddisgyblion ei alma mater, Ysgol Gyfun Ystalyfera a hynny yn theatr newydd sbon, ysblennydd yr ysgol, Theatr Chiswell a enwyd fel teyrnged iddo ef a’i fam ddiweddar, Caryl.