Ganwyd Huw Llywelyn Davies ym Merthyr yn Chwefror 1945 yn fab i Eic a Beti Davies ond ym mhentre glofaol Gwaun –Cae-Gurwen yng Nghwm Tawe y cafodd ei godi ar ôl i’r teulu symud yno pan oedd ond 18 mis oed . Ar ôl Ysgol Fach y Waun aeth i Ysgol Ramadeg Pontardawe ac yna i’r Brifysgol yng Nghaerdydd lle graddiodd gydag anrhydedd yn y Gymraeg . Tra yno bu’n gapten ar y tîm rygbi am ddau dymor ac fe’i dewiswyd hefyd i dîm cyfun Colegau Prifysgol Cymru . Cafodd ei swydd gynta yng Ngholeg Llanymddyfri yn olynu Carwyn James fel Pennaeth y Gymraeg ac athro chwaraeon . Ond ar ôl 5 mlynedd daeth newid gyrfa wrth iddo fentro i’r byd darlledu gyda HTV yn ohebydd a chyflwynydd ar y rhaglen newyddion nosweithiol “ Y Dydd”.

Ym 1979 symudodd at y BBC i withio ar Radio Cymru i ddechre yn cyflwyno a sylwebu ar chwaraeon, yn ogystal â rhaglenni i ddysgwyr , a chyflwyno cyfresi o raglenni panel ysgafn fel Dros Ben Llestri a Dyfal Donc. Ac yna ar ôl lawnsio S4C daeth yn brif sylwebydd rygbi mewn partneriaeth chwedlonol gyda Ray Gravell. Nhw oedd wrth y llyw am y gêm ryngwladol gynta yn y Gymraeg ar y teledu – Cymru v Lloeger ym 1983- y gynta o dros 300 o gêmau rhyngwladol i Huw yn ystod ei yrfa . Bu hefyd ar 5 taith gyda’r Llewod ac i Gwpan y Byd ar 5 achlysur, ac enillodd Dlws Prif Ohebydd Chwaraeon Cymru gan y Cyngor Chwaraeon ym 1995. Ond yn ogystal â’r byd Chwaraeon , bu’n brif gyflwynydd o’r Eisteddfod Genedlaethol am 33 o flynyddoedd , cyfnodau hefyd yn cyflwyno o Steddfodau’r Urdd a Llangollen ; cyfresi ddysgwyr hefyd fel “Sioe Siarad “ ; rhaglen sgyrsio “ Holi Hwn a’r Llall “ ac yn hwyrach yn ei yrfa bu’n cyflwyno’r gyfres boblogaidd o  “ Dechrau Canu Dechrau Canmol “ am ddegawd a mwy  Am ei gyfraniad i’r byd darlledu a’r Gymraeg cafodd ei Urddo â’r Wisg Werdd i Orsedd y Beirdd ym Mhorthmadog ym 1987 ac yna’i ddyrchafu i’r Wisg Wen yn Steddfod Castell Nedd 1995 .

Cafodd hefyd gynnig yr MBE gan Balas Buckingham , ond ni dderbyniodd yr anrhydedd honno gan y teimlai y byddai’n mynd yn erbyn holl egwyddorion ei fagwraeth a’i ddaliadau fel Cenedlaetholwr o Gymro . Ond derbyniodd gyda balchder mawr Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Caerdydd 2007 a Gradd er Anrhydedd -  Doethur mewn Llenyddiaeth- gan Brifysgol Abertawe yn 2019

Yn ogystal â’i waith darlledu bu’n Gadeirydd ar Bwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2002 ac eto’n Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch 2008 . Mae hefyd bellach yn Llysgennad dros Ysbyty Velindre, yn canu mewn 2 gôr – Côr Meibion Tâf a Chôr Pensiynwyr Hen Nodiant , ac yn Llywydd ers 1999 ar Glwb Rygbi Pentyrch – y pentre ar gyrrion Caerdydd lle mae’n byw gyda’i wraig Carol . Mae ganddynt un mab – Rhodri Llywelyn sydd hefyd bellach ym myd y cyfryngau yn gyflwynydd cyson ar raglen nosweithiol” Newyddion “ar S4C