Cafodd Hywel ei eni yng Nghastell-nedd, a’i fagu ym Mhort Talbot ac yna yng Nghlydach yng Nghwm Tawe. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Pontardawe a Phrifysgol Aberystwyth (1955-1962) lle graddiodd gyda Gradd Anrhydedd mewn Ffrangeg, gan gynnwys blwyddyn dramor fel cynorthwyydd addysgu yn y Lycee yn Lorient. Enillodd Ddiploma Addysg a  gwneud ymchwil ôl-raddedig i fywyd a gwaith Henri Barbusse. Ym 1961-62, Hywel oedd Llywydd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, a derbyniodd Ysgoloriaeth John ac Elizabeth Williams i astudio yn Ewrop.

Rhwng 1962 a 1973 bu Hywel yn gweithio ym Mhrifysgol Sussex a oedd yn newydd ar y pryd: yn Gofrestrydd Cynorthwyol, Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan Technoleg Addysg a Datblygu’r Cwricwlwm, ac yna gwasanaethodd fel Cynorthwyydd Arbennig i’r Is-Ganghellor (yr Arglwydd Asa Briggs) ar gyfer ymchwil a datblygiad academaidd y Brifysgol.

Ym 1973 symudodd Hywel gyda’i deulu i fyw ym Mrwsel pan gafodd ei benodi’n Bennaeth adran gyntaf erioed y Comisiwn ar gyfer polisïau addysg ac ieuenctid ac yn ddiweddarach cafodd ei ddyrchafu’n Gyfarwyddwr Addysg, Hyfforddiant ac Ieuenctid y Comisiwn. Yn dilyn lansio nifer o raglenni blaenllaw’r UE, yn enwedig Erasmus, Comett, Tempus a Petra, lle bu’n bennaf gyfrifol fel uwch swyddog y Comisiwn am eu dylunio, eu trafod a’u rheoli, fe’i penodwyd gan Gomisiwn Delors yn Gyfarwyddwr Tasglu’r Comisiwn ar gyfer adnoddau dynol, addysg, hyfforddiant ac ieuenctid. Gyda chyfrifoldeb am oruchwylio holl raglenni addysg yr UE, cadeiriodd bwyllgorau’r UE a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr yr aelod-wladwriaethau a bu’n gyfrifol am gysylltu â Phwyllgor Rheithorion ac Is-gangellorion Ewrop.

Yn gynnar ym 1993 penodwyd Hywel i weithredu fel Cyfarwyddwr Cyffredinol y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol ar gyfer Cyflogaeth, Polisi Cymdeithasol a Chysylltiadau Diwydiannol (1993-1998). Yn ystod y cyfnod hwn roedd yn gyfrifol am Gronfa Gymdeithasol Ewrop, cadeiriodd Bwyllgor Deialog Gymdeithasol Ewrop sy’n cynnwys cyflogwyr Ewropeaidd ac undebau llafur, a chyd-gyfarwyddodd Raglen Heddwch a Chymodi’r UE yng Ngogledd Iwerddon. Roedd ganddo gyfrifoldeb arbennig hefyd dros hyrwyddo cyfle cyfartal a chynhwysiant cymdeithasol ac am ddatblygu polisi’r UE ar ran pobl anabl. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd, roedd yn gyfrifol am gynllunio a lansio sawl Menter Gymunedol, yn fframwaith cronfeydd strwythurol yr UE, sef EQUAL, NOW, ADAPT, ac YOUTH START. Gwasanaethodd fel aelod o’r grŵp o uwch swyddogion yn y Comisiwn Ewropeaidd a baratôdd Agenda 2000 yr UE a osododd fframwaith rhaglennol ac ariannol aml-flwyddyn cyntaf yr UE ar gyfer y cyfnod hyd at 2006.

Ar ôl ymddeol yn gynnar o’r Comisiwn ym 1998, gweithredodd Hywel fel Cynghorydd Arbennig i George Soros ar strategaeth y dyngarwr ar gyfer ei Rwydwaith Sefydliadau Cymdeithas Agored yng Nghanolbarth a Dwyrain Ewrop. Yna dychwelodd i Gymru a chafodd ei benodi’n Gynghorydd Ewropeaidd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru (Ron Davies ac Alun Michael yn ddiweddarach). Bu’n cadeirio Tasglu Cymru Gyfan a sefydlwyd i baratoi Cynulliad Cenedlaethol newydd Cymru i ymgymryd â’i gyfrifoldebau Ewropeaidd ac roedd yn gweithio’n agos gyda’r Ysgrifennydd Gwladol wrth negodi penderfyniad yr UE i roi statws Amcan 1 i Gymru.

Yn ystod y cyfnod 2000-2010, gwasanaethodd Hywel yn olynol fel Cadeirydd y Ganolfan Polisi Ewropeaidd, melin drafod polisi flaenllaw ym Mrwsel, ac fel Cyfarwyddwr Rhwydwaith Sefydliadau Ewrop, a hyrwyddodd gydweithrediad rhwng sefydliadau Ewropeaidd ledled Ewrop ar nifer o faterion o bryder rhyngwladol, gan gynnwys ymfudo ac integreiddio. Bu hefyd yn gyd-gadeirydd y Consortiwm Ewropeaidd o Sefydliadau ar gyfer Hawliau Anabledd, yn Llywodraethwr Sefydliad Diwylliannol Ewrop (Amsterdam), aelod o Fwrdd Ecorys (Rotterdam), ac fe’i penodwyd yn aelod o Fwrdd yr Ymddiriedolaeth Ffederal dros Addysg ac Ymchwil yn Llundain a’r Cyngor Prydeinig Ffrengig.

Ers iddo ddychwelyd i fyw yng Nghymru, bu Hywel yn aelod o Fwrdd Cymru Yfory yn hyrwyddo’r diwygiadau angenrheidiol i fwrw ymlaen â datganoli Cymru ac i sicrhau’r bleidlais ‘Ie’ yn Refferendwm Cymru. Gwasanaethodd fel Cadeirydd Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd (2012-2015) ac am y cyfnod 2015-17 fe’i penodwyd gan Lywodraeth Cymru i wasanaethu fel un o 3 Llysgennad Cyllid yr UE i Gymru, gan adrodd i’r Llywodraeth ychydig cyn dechrau Refferendwm yr UE 2016. Yn dilyn canlyniad y Refferendwm hwn, penodwyd Hywel gan Lywodraeth Cymru i wasanaethu ar ei Grŵp Cynghori Ewropeaidd, i gynghori ar oblygiadau’r bleidlais Brexit i Gymru.

Mae Hywel wedi derbyn Doethuriaethau gan Brifysgolion Sussex, Leuven, Brwsel, Cymru, Iwerddon a’r Brifysgol Agored, ac yn fwyaf diweddar Caeredin a Mons. Mae ganddo Gymrodoriaethau gan Brifysgolion Aberystwyth, Abertawe, Y Drindod, Glyndŵr, Morgannwg, San Steffan a Sefydliad Addysg yr Alban. Derbyniodd Fedal Aur gan Weriniaeth yr Eidal am wasanaethau i addysg a diwylliant, a hefyd y wobr am y Cyfraniad Eithriadol am Gyfnewid Addysgol Ryngwladol gan y Cyngor Cyfnewid Addysgol, Berlin. Derbyniodd gymrodoriaethau Winston Churchill ac Eisenhower. Dyfarnwyd y CMG iddo gan y Frenhines am ei wasanaethau i’r DU ac Ewrop. Yn fwyaf diweddar, yn 2017, derbyniodd Hywel y Wobr Ryngwladol am Weledigaeth ac Arweinyddiaeth gan y Gymdeithas Ewropeaidd dros Addysg Ryngwladol (EAIE). Yn 2019 cafodd ei ethol yn gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Mae wedi cyhoeddi amrywiaeth eang o erthyglau ar addysg, hyfforddiant, cyflogaeth ac Ewrop ac wedi traddodi nifer o ddarlithoedd a enwir, gan gynnwys Darlith Addysg y Guardian ym 1989, Darlith IBM yn y Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg ym 1990, Darlith Flynyddol BBC Cymru ym 1999 a Darlith Flynyddol Sefydliad Gwleidyddiaeth Prifysgol Aberystwyth yn 2016. Mae ei gyhoeddiadau’n cynnwys Planning the development of universities: a case study of the University of Sussex (UNESCO: International Institute for Educational Planning, Parish 1971)  Cyd-awdur  Teaching and Learning: an introduction to new methods and resources in higher education (UNESCO and the International Association of Universities, Paris 1979.)  Cyd-awdur.

Mae’n aelod o Orsedd Beirdd Eisteddfod Genedlaethol Cymru, a gwasanaethodd fel Is-lywydd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ac fel Ymddiriedolwr Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Mae Hywel yn byw gyda’i wraig Morwenna ym Mhenarth ac mae ganddo ddau o blant, Hannah a Gwilym a thri ŵyr, Zac, Leah ac Etienne. Mae Hywel yn Gymro Ewropeaidd angerddol ac wrth ei fodd gyda barddoniaeth, rygbi a snwcer, a theithio’n helaeth yn Ewrop.