Mae Ian Jones yn arweinydd busnes rhyngwladol medrus gyda deugain mlynedd a mwy o brofiad o weithio ar y lefel uchaf yn y diwydiant Cyfryngau a Theledu Rhyngwladol.

Mae Ian wedi gweithio fel Llywydd National Geographic TV International (Washington, Llundain), Rheolwr Gyfarwyddwr A&E Television Networks International (Efrog Newydd), Prif Swyddog Gweithredu ITEL (Llundain, Los Angeles), Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp Target Entertainment (Llundain, Los Angeles) a Phrif Swyddog Gweithredol S4C. Trwy gydol ei yrfa mae Ian wedi cynghori asiantaethau’r llywodraeth hefyd ar fuddsoddi a datblygu yn eu diwydiannau teledu a chyfryngau gan gynnwys Screen Australia, Screen West ac UKTI. Yn fwy diweddar mae wedi bod yn mentora swyddogion gweithredol lefel ‘C’ mewn busnesau cyfryngau yn yr Unol Daleithiau, Ewrop ac Awstralia.

Dros y blynyddoedd, gwasanaethodd Ian ar fyrddau nifer o sefydliadau yn y DU ac UDA gan gynnwys Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, y Bwrdd Cenedlaethol Cynghori ar Dwristiaeth - ‘Croeso Cymru’, CDN Rhwydwaith Amrywiaeth Creadigol y DU, Y Ganolfan Ymchwil yn Glasgow a FPS yn UDA. Mae’n Gyn-gadeirydd Cymdeithas Dosbarthwyr Teledu Prydain ac Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu Cymru ac yn aelod o grŵp cynghori masnachol rygbi UDA .

Yn 2017 ymddangosodd Ian yng nghylchgrawn CEO Magazine ac yn 2018, i gydnabod ei gyfraniad i’r cyfryngau yng Nghymru, dyfarnwyd Doethur mewn Llenyddiaeth DLL er Anrhydedd i Ian gan Brifysgol Abertawe. Mae’n Gymrawd er Anrhydedd o Brifysgol Aberystwyth hefyd ac yn Is-lywydd Anrhydeddus y Gymdeithas Deledu Frenhinol.