Mae’r naturiaethwr, y cyflwynydd teledu bywyd gwyllt, yr awdur a’r cadwraethwr arobryn Iolo Williams yn rhan o dîm cyflwyno poblogaidd Springwatch, Autumnwatch a Winterwatch y BBC. Mae wedi cyflwyno cyfresi fel Wild Wales, Rugged Wales, Great Welsh Parks, Visions of Snowdonia a Birdman ar gyfer BBC Two ac wedi cyd-gyflwyno sawl cyfres rhwydwaith fel Nature’s Top 40 a Countryfile.
Ym mis Medi 2020 derbyniodd Iolo Wobr Talent Onscreen Gorllewin Lloegr gan y Gymdeithas Deledu Frenhinol am ei waith ar The Watches.
Mae’n siaradwr angerddol, ysbrydoledig sydd wedi annerch Cynulliad Cymru ar faterion cadwraeth, yn awdur cyhoeddedig a cholofnydd bywyd gwyllt. Mae ei wybodaeth am hanes natur yn fyd-eang.
Cafodd Iolo ei eni a’i fagu yn y canolbarth. Ar ôl cwblhau gradd mewn ecoleg o Bolytechnig Gogledd Ddwyrain Llundain, aeth ymlaen i weithio i’r RSPB am bron i bymtheg mlynedd. Yn ei rôl fel Swyddog Rhywogaethau i Gymru, bu’n gweithio gyda rhai o adar bridio prinnaf y wlad ac, yn anochel, daeth hyn ag ef i sylw’r cyfryngau.
Dilynodd dwy gyfres ar gyfer BBC 2, Visions of Snowdonia a Birdman, ei waith fel swyddog RSPB ac ar ddiwedd y 1990au, gadawodd Iolo y Gymdeithas i weithio’n llawn amser yn y cyfryngau. Roedd ei gyfresi, yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn canolbwyntio ar fywyd gwyllt Cymru a’r byd ac fe gyd-gyflwynodd nifer o gyfresi rhwydwaith fel Nature’s Top 40 a Countryfile.
Ers 2010, mae Iolo wedi bod yn rhan o dîm cyflwyno Springwatch, Autumnwatch a Winterwatch ac mae wedi cyflwyno sawl cyfres fel Wild Wales, Rugged Wales a Great Welsh Parks ar gyfer BBC 2.
Mae wedi ysgrifennu sawl llyfr ar fywyd gwyllt Cymru yn Gymraeg a Saesneg ac mae’n cyfrannu’n rheolaidd i sawl cylchgrawn, gan gynnwys ‘BBC Wildlife’.
Mae Iolo yn baragleidiwr cymwysedig ac mae ganddo gymhwyster Deifio PADI. Mae’n noddwr sawl sefydliad cadwraeth yng Nghymru ac ar hyn o bryd mae’n llywydd Cymdeithas Adaryddol Cymru.
Mae Iolo’n athletwr brwd, ar ôl chwarae rygbi am y rhan fwyaf o’i fywyd ac mae wedi ymgymryd â theithiau cerdded elusennol i fyny Kilimanjaro ar gyfer Gofal Canser Felindre ac wedi cerdded o un pen o Gymru i’r llall ddwywaith ar gyfer yr Ambiwlans Awyr a hosbisau plant Hope House/Tŷ Hafan.