Treuliodd Jazz wyth mlynedd yn hyfforddi ym Mhwll Nofio Cenedlaethol Cymru, Abertawe, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bu’n cynrychioli Prifysgol Abertawe, cyn symud i Brifysgol Caerfaddon yn y cyfnod cyn Gemau Olympaidd Rio a chystadlu’n bennaf mewn gweithgareddau nofio rhydd sy’n profi gwytnwch corfforol.
Cynrychiolodd Cymru am y tro cyntaf pan oedd ond yn 15 oed yng Ngemau’r Gymanwlad ym Melbourne, Awstralia yn 2006. Aeth ymlaen i gynrychioli Cymru yn Delhi yn 2010, yn Glasgow yn 2014 ac ar yr Arfordir Aur yn Awstralia yn 2018 lle cafodd y fraint o gario’r faner.
Mae Jazz wedi ennill llawer o fedalau dros Gymru ac yn 2010 hi oedd y nofiwr benywaidd cyntaf o Gymru i ennill dwy fedal (Arian, Efydd) yng Ngemau’r Gymanwlad. Yng Ngemau’r Gymanwlad 2014 yn Glasgow, lle enillodd Fedal Aur yn y gystadleuaeth nofio rhydd 800m a Medal Arian yn y gystadleuaeth 400m, hi oedd y Nofiwr benywaidd cyntaf o Gymru i fod yn Bencampwr y Gymanwlad ers Pat Beavan yng Ngemau’r Gymanwlad ym 1974.
Ym mis Chwefror 2019 cyhoeddodd Jazz ei bod yn ymddeol o nofio’n gystadleuol, a hithau’n 28 oed. Ers iddi roi’r gorau i gystadlu, mae Jazz Carlin wedi symud ymlaen i fod yn hyfforddwr busnes ac yn fentor i Raglen Nofio Cymru.
Wrth dderbyn ei gwobr er anrhydedd, medai Jazz Carlin: “Mae derbyn y wobr hon yn anrhydedd aruthrol. Mae gen i atgofion mor felys o dreulio amser yn Abertawe a hyfforddi ym Mhwll Cenedlaethol Cymru, ac ni fyddwn wedi gallu gwneud hynny heb gymorth gan y Brifysgol dros y blynyddoedd. Mae’n amgylchedd gwych i fod yn rhan ohono.”