Ganed Jonathan Tudor "Jonny" Owen ym Merthyr Tudful ym mis Gorffennaf 1971. Mae wedi ymddangos mewn sioeau teledu, gan gynnwys 'Shameless', 'Murphy's Law' a 'My Family'. Yn 2007, enillodd dlws BAFTA Cymru am raglen ddogfen 'The Aberfan Disaster' a gyd-gynhyrchwyd ganddo.

Yn y 1990au, Jonny oedd prif ganwr/cyfansoddwr caneuon a chwaraewr bas y band indie The Pocket Devils. Arwyddodd y band gytundeb gyda Sanctuary Records yn y DU a Pop Music Records yn yr Unol Daleithiau.

Yn dilyn hyn, cafodd Jonny ran Richey yn y gyfres ddrama Gymreig 'Nuts and Bolts' ar HTV, ym 1999.

Wedi llwyddiant y gyfres honno, cafodd rannau yng nghyfresi rhwydwaith y DU gan gynnwys 'Murphy's Law' gyda James Nesbitt a 'Dirty Work' gyda Neil Pearson. Roedd cyfarfod Irvine Welsh wrth ffilmio'r fideo "Is it over?" ar gyfer y grŵp Gene yn allweddol i'w yrfa ac ers hynny mae wedi gweithio gyda Welsh (a'i bartner ysgrifennu Dean Cavanagh) ar sawl drama gan gynnwys 'Dose' ar gyfer y BBC, 'Wedding Belles' ar gyfer C4 a 'Good Arrows' ar gyfer ITV (a gynhyrchwyd gan Jonny hefyd).

Enillodd ei ffilm 'Little White Lies' (2006) nifer o wobrau gŵyl ffilm a chafodd ei chynnwys yng Ngŵyl Ffilm Moscow.

Mae Jonny wedi gweithio'n helaeth fel awdur a chynhyrchydd i ITV Wales hefyd, ac enillodd wobr Gwyn Alf Williams yn seremoni BAFTA Cymru am raglen ddogfen 40 mlwyddiant trychineb Aberfan. Wrth ffilmio, datgelwyd mai ei dad oedd un o'r glowyr cyntaf i gyrraedd ar gyfer y gwaith achub.

Yn 2009 ymddangosodd fel y cymeriad rheolaidd Ady yn Shameless ar Channel 4, tan 2010.

Hefyd, rhyddhawyd y ffilm annibynnol A Bit of Tom Jones? yn 2009 gyda Jonny yn y brif ran.

Jonny yw awdur a chrëwr Svengali, cyfres gwlt ar y rhyngrwyd a gafodd ei henwi 'the best series on the net' gan yr Evening Standard a'r NME. Mae'r gyfres, lle mae Jonny yn chwarae rheolwr band addawol, yn seiliedig ar ei brofiadau ei hun yn y diwydiant cerddoriaeth.

Yn 2013 cafodd Svengali ei throi'n ffilm nodwedd, a gyfarwyddwyd gan John Hardwick, ac a ysgrifennwyd gan Jonny Owen. Cafodd ei dewis ar gyfer 67ain Gŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin, a’i henwebu ar gyfer Gwobr Michael Powell hefyd, gwobr sy'n anrhydeddu'r ffilm nodwedd Brydeinig orau.

Mae Jonny wedi ysgrifennu ar gyfer The Guardian, The Telegraph, Metro a'r Western Mail. Ef hefyd oedd llais rhaglen bêl-droed 'Soccer Sundau' ITV Cymru rhwng 2002 a 2008 a gwnaeth adroddiadau wythnosol o Ffrainc ar gyfer ITV yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd 2007.

Ym mis Mawrth 2018, penodwyd Jonny’n gyfarwyddwr yn Nottingham Forest F.C. i reoli gwaith cyfryngau a chynhyrchu fideo'r clwb, ar ôl cyfarwyddo ffilm 'I Believe In Miracles' yn 2015 yn croniclo cyfnod euraidd Forest dan reolaeth Brian Clough yn y 1970au a'r 80au.

Cyfarwyddodd Jonny y ffilm 'Don't Take Me Home' ar gyfer y BBC yn 2017 yn cofnodi ymgyrch wych tîm pêl-droed Cymru yn Ewros 2016. Yn 2020 cyfarwyddodd 'The Three Kings'  ar gyfer Amazon gyda gwneuthurwyr 'Senna and Amy'. Y llynedd, cyfarwyddodd y gyfres tair rhan 'Together Stronger'  ar gyfer y BBC a enillodd wobr RTS Cymru yn ddiweddar am y rhaglen ddogfen chwaraeon orau.

Yn 2021 ffurfiodd gwmni cynhyrchu Build Your Own Films gyda'i wraig Vicky McClure, sydd eisoes wedi helpu i wneud cyfres deledu fawr ar gyfer ITV, 'Without Sin' ac sydd ar fin dechrau ffilmio cyfres fawr ar gyfer Paramount Plus. Nhw hefyd sy'n noddi crysau pêl-droed ei glwb cartref, Merthyr Town FC.