Daeth y seren Gymreig, y Mezzo Soprano Katherine Jenkins OBE, yn gantores glasurol fwyaf llwyddiannus y byd yn swyddogol ar ôl iddi gael ei choroni’n artist clasurol sydd wedi gwerthu fwyaf yn y ganrif’ gan Classic FM. Cadarnhaodd ei theitl ymhellach trwy gael ei 14eg Albwm Rhif 1 - gan chwalu pob record ers arwyddo i Universal Classicspan oedd yn ifanc, a hithau’n ddwy ar hugain oed.

A hithau’n athrawes ysgol ar y pryd, daeth Katherine ar y sin gerddoriaeth yn 2003 pan berfformiodd yn Eglwys Gadeiriol Westminster i anrhydeddu Jiwbilî Arian y Pab John Paul II, daeth yn ysbrydoliaeth i dîm rygbi Cymru, gan ganu’r anthem cyn gemau rhyngwladol pwysig a gwnaeth ei pherfformiad cyntaf yn Nhŷ Opera Sydney. Derbyniodd wobrau ac anrhydeddau yn ogystal â gwahoddiadau i ganu ar gyfer Pabau, Arlywyddion a Thywysogion. Mae Katherine yn un o ffefrynnau teulu brenhinol Prydain ar ôl cael gwahoddiad i ganu ‘God Save the Queen’ yn jiwbilî diemwnt Ei Mawrhydi, perfformio yng nghyngherddau Coroni’r Frenhines ym Mhalas Buckingham ac yn nathliadau pen-blwydd Ei Mawrhydi yn 90 oed yng nghastell Windsor.

Mae Katherine wedi ennill ei statws ‘Trysor Cenedlaethol’ nid yn unig drwy ei hymroddiad i’w cherddoriaeth ond oherwydd ei hymdrechion elusennol enfawr. Hi yw noddwr byd-eang The Wilderness Foundation (cadwraeth) yn ogystal â bod yn Llysgennad i Ymddiriedolaeth TUSK y Tywysog William. Mae’n llysgennad i’r elusen ganser Macmillan, yn un o ymddiriedolwyr Sefydliad y Lluoedd Prydeinig (mae wedi teithio i Irac, Afghanistan, Kosovo, Cyprus a Gogledd Iwerddon i ddiddanu’r milwyr a chyflwynwyd OBE iddi gan EUB Tywysog Cymru yn 2013 o ganlyniad). Mae Katherine yn aelod o fwrdd cynghori celfyddydau Canolfan Nehru sy’n annog datblygiad artistig rhwng India a’r DU ac mae’n llysgennad ar gyfer ymgyrch GREAT Rhif 10. Treuliodd Jenkins 2020 yn creu perfformiadau ‘gartref’ am ddim i hybu morâl a dod â phobl at ei gilydd yn rhithwir yn ystod y pandemig. Perfformiodd 25 o gyngherddau ‘lockdown live’ bob nos Sadwrn i filiynau o bobl, perfformiodd gyngerdd ar Ddiwrnod VE y BBC o Balas Buckingham gwag yn ogystal â chyngerdd ‘Behind Closed Doors’ yn Neuadd Frenhinol Albert – y cyntaf yn hanes 150 mlynedd y lleoliad eiconig.

Ganed Katherine yn Ne Cymru, a dysgodd ganu fel aelod o gôr Eglwys Dewi Sant, Castell-nedd. Cafodd ei chariad at gerddoriaeth ei feithrin yn dda yn y Cymoedd, lle cafodd gyfle i ymuno â grwpiau corawl, perfformio gyda Chorau Meibion yn ogystal â chymryd rhan mewn Eisteddfodau a digwyddiadau cerddorol eraill. Mae’n priodoli ei natur ddiffwdan gyda thraed ar y ddaear i’w gwreiddiau Cymreig a’i theulu anhygoel. Yn anffodus, bu farw tad Katherine, Selwyn, pan oedd hi’n 15 oed ac ers hynny ei gof fu’n sbardun yn ei bywyd. Mae pob albwm, pob gwobr yn cael ei chyflwyno iddo. O fewn misoedd i raddio o’r Academi Gerdd Frenhinol, arwyddodd Katherine y ‘cytundeb recordio mwyaf yn hanes cerddoriaeth glasurol y DU’ a rhyddhaodd ei halbwm gyntaf ‘Premiere’, sef ei halbwm rhif un glasurol gyntaf. Chwe mis yn ddiweddarach, cyrhaeddodd ei hail albwm, ‘Second Nature’, rif 1 hefyd ac fe enillodd yr albwm y Wobr BRIT Classic gyntaf i Katherine am yr albwm orau yn 2005.

Y flwyddyn ganlynol derbyniodd Katherine ei hail wobr BRIT clasurol ‘Albwm y Flwyddyn’ am ‘Living a Dream’. Cafwyd teithiau a werthodd bob tocyn, yn ogystal â pherfformiadau a recordiadau gydag Andrea Bocelli, Jose Carreras, David Foster, y Fonesig Kiri te Kanawa, Syr Bryn Terfel, Rolando Villazon, Juan Diego Florez, Il Divo, Kylie Minogue a Michael Bolton. Heb ofni camu y tu hwnt i’w maes cyfarwydd, mae Katherine wedi ymddangos fel mentor yn ‘Popstar to Operastar’ ar ITV, wedi chwarae rhan Abigail yn rhaglen Nadolig eiconig Dr Who y BBC, dawnsio ei ffordd drwy ‘Viva la Diva’ gyda’r brif falerina Darcey Bussell yn ogystal ag ennill yr ail safle yn y sioe deledu boblogaidd ‘Dancing with the Stars’ yn UDA yn 2012. Ar ôl blynyddoedd fel perfformiwr gwadd, roedd Katherine wrth ei bodd yn ymuno â theulu ‘Songs of Praise’ y BBC yn swyddogol fel cyflwynydd rheolaidd y rhaglen grefyddol wythnosol.

Yn 2017 gwelwyd ymddangosiad cyntaf Katherine ar lwyfan y West End yn chwarae Julie Jordan yn Carousel gydag English National Opera yn y London Coliseum, gyda’i pherfformiad yn cael adolygiadau gwych gan y wasg Brydeinig a rhyngwladol. Ei rôl actio nesaf a’i ffilm gyntaf oedd Minamata, gyda Johnny Depp a Bill Nighy, ffilm a ryddhawyd yn 2021 y mae Katherine yn canu sgôr Ryuichi Sakamoto ynddi hefyd. Ymddangosodd yn ‘Dream Horse’ hefyd – stori Gymreig wir lle mae Katherine yn chwarae hi ei hun.

Roedd 2022 yn flwyddyn emosiynol i Katherine ar ôl cael gwahoddiad i ganu ‘We’ll Meet Again’ yng ngwasanaeth coffa ei mentor a’i ffrind, y Fonesig Vera Lynn yn Abaty Westminster. Chwaraeodd ran allweddol hefyd yn perfformio i’r Frenhines yn ei chyngerdd Jiwbilî Platinwm o Gastell Windsor ac yng nghartref gwledig Ei Mawrhydi, Sandringham, Norfolk.

Ym mis Medi, ar ôl marwolaeth drist iawn y Frenhines, dewiswyd Katherine gan y BBC i fod yr artist cyntaf i recordio ‘God Save The King’ ar gyfer Ei Fawrhydi, y Brenin Siarl III ac yn fuan wedyn enillodd Wobr ‘Gold Heart’ Dug Caeredin y Royal Variety Club a gymeradwywyd gan y diweddar Frenhines 8 diwrnod cyn ei marwolaeth.

Ym mis Mawrth 2023, ychwanegodd Katherine linyn newydd i’w bwa trwy ddod yn entrepreneur benywaidd a lansio ei brand gin moethus ei hun, Cygnet. Gwerthodd y cwbl yn yr wythnos gyntaf ac enillodd wobrau oherwydd ei ansawdd uchel botanegol, am fod yn flaengar i ferched a bod yna ffocws amlwg ar gynaliadwyedd. Mae Cygnet i’w gael eisoes yn llawer o fariau a bwytai gorau’r DU, ac mae’n cael ei werthu yn Harvey Nichols, John Lewis, Waitrose a Marks and Spencer hefyd.

Ym mis Awst 2023 derbyniodd Katherine yr anrhydedd fawr o gael gwahoddiad i fod yn Fonesig-Noddwr HMS Caerdydd, llong ryfel ddiweddaraf y Llynges Frenhinol a fydd yn cael ei chomisiynu yn 2027. Dim ond i aelodau benywaidd o’r teulu Brenhinol neu uwch bersonél milwrol y rhoddwyd yr anrhydedd hon yn y gorffennol, a noddwr ei chwaer long, HMS Glasgow yw Tywysoges Cymru. Gyda thad Katherine, Selwyn, wedi bod yn y Llynges fel dyn ifanc, mae Katherine wrth ei bodd yn ymuno â’r ymrwymiad gydol oes hwn.