Mae Elizabeth 'Liz' Johnson yn nofiwr Prydeinig o safon fyd-eang sy'n fwyaf adnabyddus am ei llwyddiant yng Ngemau Paralympaidd Beijing 2008, gan ennill medal aur yn y ras 100m nofio broga SB6 i Fenywod. Mae Liz yn un o ychydig iawn o gystadleuwyr sydd wedi ennill medalau aur yn y Gemau Paralympaidd, Pencampwriaethau'r Byd a Phencampwriaethau Ewrop.
Ganwyd Liz Johnson yng Nghasnewydd, de Cymru ym 1985 ac yn 3 oed gwnaeth mam Liz ei hannog i ymuno â grŵp ar gyfer nofwyr anabl. Cwympodd Liz mewn cariad â'r gamp yn gyflym ac ni wnaeth erioed edrych yn ôl, gan gystadlu fel nofiwr SB6 a chafodd ei dewis i gystadlu gyda Team GB pan oedd yn 14 oed. Aeth Liz i Brifysgol Abertawe yn 2008 a chwblhaodd radd mewn Rheoli Busnes a Chyllid. Yn 2014 dyfarnodd Prifysgol Abertawe gymrodoriaeth er anrhydedd i Liz am ei llwyddiannau ym myd chwaraeon fel cyn-fyfyriwr, gan dynnu sylw at y berthynas agos rhwng y Brifysgol a Liz. Wrth dderbyn ei gwobr, meddai Liz 'Chwaraeodd Prifysgol Abertawe ran bwysig ar fy ffordd i lwyddiant chwaraeon ac roeddwn i wrth fy modd â'm hamser yno'.
Ym Mhencampwriaethau Nofio'r Byd yr IPC 2006 yn Durban, De Affrica, enillodd Liz fedal aur yn y ras nofio broga 100 metr (unigol) a dwy fedal aur yn y ras gyfnewid. Yn yr un digwyddiad yn 2009, aeth Liz ymlaen i dorri record y byd. Yn 2008 cynhaliwyd y Gemau Paralympaidd yn Beijing ac enillodd Liz fedal aur yn y ras SB6 100 metr nofio broga, carreg filltir bwysig arall yn ei gyrfa wych. Yng ngemau Paralympaidd Llundain yn 2012 enillodd Liz fedal efydd a gosod record Paralympaidd newydd ar ei ffordd i'r rownd derfynol.
Mae cyflawniadau ac ymrwymiadau Liz yn ymestyn yn llawer ehangach na'r pwll nofio: yn 2018, dechreuodd Liz weithio gyda 'The Ability People', sefydliad sy'n ymroddedig i rymuso'r boblogaeth anabledd fyd-eang fedrus. Yn rôl bresennol Liz fel Rheolwr Gyfarwyddwr a Llysgennad Cleientiaid, mae Liz yn arwain y tîm ac yn cynrychioli'r sefydliad gyda phartneriaid corfforaethol, gan amlinellu ac ymgorffori'r gwerthoedd sy'n gwneud 'The Ability People' yn unigryw.