Mae Lowri Morgan yn athletwr dygnwch eithafol, yn ddarlledwr ac yn gynhyrchydd sydd wedi ennill gwobr BAFTA a sawl gwobr arall, ac yn anturiaethwr.
Mae Lowri wedi cystadlu yn rhai o rasys mwyaf eithafol y byd a'u hennill. Mae hi’n un o'r ychydig athletwyr dygnwch yn y byd i gystadlu yn y ras gerdded enwog 350 milltir heb stopio, sef 6633 Ultra Arctic. Mae'n adnabyddus am fod y ras anoddaf, fwyaf gwyntog a mwyaf eithafol ar y blaned. Mae cyflawniadau eraill yn cynnwys gorffen yn y 10 Uchaf ar ôl cystadlu yn y marathon Jungle Ultra yng Nghoedwig yr Amazon.
Yn 2015, bythefnos yn unig ar ôl dod yn rhiant am y tro cyntaf, dychwelodd Lowri i rasio dygnwch drwy gystadlu yn Ras Hwylio'r Tri Chopa, ras hynod anodd, a chreu hanes drwy fod y tîm benywaidd cyntaf i ennill y ras.
Yn 2016, Lowri oedd y person cyntaf i redeg o ogledd i dde Cymru drwy gopaon a mynyddoedd uchaf y wlad mewn 60 awr. Cwblhaodd y 150 milltir a’r her esgyn 10,000 metr mewn un penwythnos. Mae Lowri yn anturiaethwr sy'n adnabyddus am awyrblymio, sgïo mynydd a sgwba-blymio mewn dyfroedd peryglus ac mae'n un o 80 o bobl yn y byd sydd wedi plymio i weld llongddrylliad y Titanic.
Oherwydd ei chyflawniadau niferus, gwahoddwyd Lowri i dderbyniad preifat gyda'r Frenhines i gydnabod ei gwasanaethau i antur ac archwilio. Mae hi hefyd wedi ennill Anturiaethwr Cenedlaethol y Flwyddyn, Cymrodoriaeth er Anrhydedd ym Mhrifysgol Abertawe ac roedd yn Llysgennad ar gyfer Ymgyrch Blwyddyn Antur Llywodraeth Cymru 2016 ynghyd â Bear Grylls.
Fel cyflwynydd teledu ers dros 17 mlynedd, mae Lowri wedi gweithio ar nifer o gynyrchiadau gyda gwahanol gwmnïau gan gynnwys teledu byw gyda BBC Sport, ITV, Channel 4 ac S4C. Yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, mae Lowri wedi bod yn ymwneud â darlledwyr rhyngwladol yn cyflwyno rhaglenni dogfen am fywydau llwythau lleol yn Namibia, Tsieina, Moroco, Mecsico a Periw.