Marvin Rees yw Maer Bryste. Astudiodd ym Mhrifysgol Abertawe, gan ennill BSc Econ mewn Hanes Economaidd ac yna MA mewn Gwleidyddiaeth, gan raddio ym 1994.

Dechreuodd ei yrfa broffesiynol yn Tearfund, cyn gweithio gyda Sojourners yn Washington DC a Dr Tony Campolo, ymgynghorydd i’r Arlywydd Clinton. Ar ôl dychwelyd i’r DU, bu’n newyddiadurwr darlledu gyda BBC Bristol, yn cynorthwyo’r sector gwirfoddol a arweinir gan Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yn The Black Development Agency, ac yn cyfrannu at hyrwyddo cydraddoldeb hiliol mewn gwasanaethau iechyd meddwl gyda thîm Iechyd Cyhoeddus y GIG ym Mryste.

Mae ganddo ddwy radd Meistr sef Theori Wleidyddol a Llywodraeth, a Datblygu Economaidd Byd-eang. Mae’n Gymrawd Byd o Brifysgol Yale ac wedi graddio o Fenter City Leadership Bloomberg Harvard. Aeth i’r byd gwleidyddol ar ôl graddio o raglenni Operation Black Vote a Labour Future Candidate.

Cafodd Marvin Rees ei ethol yn Faer am y tro cyntaf ym mis Mai 2016, a chafodd ei ailethol ym mis Mai 2021. Ef yw’r person cyntaf o dras Du Affricanaidd i gael ei ethol yn uniongyrchol i rôl maer mewn dinas fawr yn Ewrop.

Yn ystod ei dymor cyntaf yn y swydd, darparodd bron i 9,000 o gartrefi, cyhoeddodd ddatblygiad system gludiant torfol, darparodd brofiad gwaith o safon uchel i dros 3,500 o blant, a datblygu’r Cynllun Un Ddinas, gan lwyddo i ddod â Channel 4 i Fryste. Mae’n arwain ymateb y ddinas i’r argyfyngau hinsawdd ac ecolegol. Yn 2022, rhoddodd sgwrs TED am rôl dinasoedd wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Mae hefyd yn Gadeirydd Core Cities UK, Cadeirydd bwrdd Dinas-ranbarthau Cymdeithas Llywodraeth Leol, Cyd-gadeirydd Urban Futures Commission y DU, Aelod Sylfaenol o’r Mayor’s Migration Council, yn Aelod Arweiniol o’r Global Parliament of Mayors, ac yn Aelod o Banel Cynghori’r Work Foundation, ymysg rolau eraill.