Pan groesodd Max Boyce Fynyddoedd y Rhigos o'i gartref yng Nglyn-nedd ar 23 Tachwedd, 1973, i recordio albwm 'Live at Treorchy Rugby Club', prin y gwyddai y byddai'n newid ei fywyd. Roedd eisoes wedi recordio rhai o'i ganeuon cynharach yng Nghlwb Gwerin Valley ym Mhontardawe a phan glywodd EMI yr albwm ac yna gweld Max yn perfformio'n fyw mewn cyngerdd, cafodd wahoddiad i lofnodi cytundeb i recordio dau albwm byw o'i ganeuon a'i straeon. Cafodd y cerddorion ar gyfer y noson honno eu dwyn ynghyd ar frys y prynhawn hwnnw. Heb bron unrhyw ymarfer, recordiwyd y caneuon a'r straeon.
Yn dilyn llwyddiant yr albwm cyntaf roedd EMI, wrth reswm, yn awyddus i recordio albwm dilynol. Fodd bynnag, doedden nhw, hyd yn oed, ddim yn barod am y ffaith y byddai'r albwm – ‘We All had Doctors' Papers' yn cyrraedd Rhif 1 yn siartiau'r albymau. Camp a enillodd le i Max yn y Guinness Book of Records fel yr unig albwm gomedi i gyflawni'r gamp honno.
Tua'r adeg yma y cynigiodd y BBC ei gyfres deledu gyntaf i Max. Ar gyfer y gyfres hon cadwyd at y fformiwla ddibynadwy o ffilmio perfformiadau byw mewn theatrau ledled Prydain Fawr, a gynyddodd ei boblogrwydd ymhellach a chyflwyno ei ddoniau i gynulleidfa lawer mwy. Adlewyrchwyd llwyddiant y rhaglenni hyn yn sgoriau teledu ‘JICTAR’. Gan gyrraedd Rhif 1, hi oedd y rhaglen a gafodd ei gwylio fwyaf yn y wlad, gan gyflawni ffigurau gwylio syfrdanol.
Ym 1973 derbyniodd Max ei Ddisg Aur gyntaf ar gyfer 'Live at Treorchy', a werthodd ymhell dros hanner miliwn o gopïau ledled y byd. Cafodd ei albymau dilynol 'We All Had Doctors' Papers', 'The Incredible Plan', a 'I Was There' Ddisgiau Aur hefyd.
Ym 1978 ymddangosodd Max ar 'This is Your Life' ar Thames Television.
Ffilmiodd Max dair rhaglen antur arbennig hefyd. Y gyntaf oedd 'Max Boyce Meets The Dallas Cowboys' - pan chwaraeodd yn safle’r “quarter back” i'r tîm pêl-droed Americanaidd enwog.
Ymgollodd ym myd y 'Rodeo Cowboy' gyda’r un ymroddiad llwyr – lle enillodd edmygedd gwirioneddol, go iawn unwaith eto. Wrth wneud y ffilmiau hyn, fe ddangosodd nad oedd ofn mentro. Cyflawnodd styntiau digon beiddgar i godi gwallt eich pen a phrofodd ei hun i'r eithaf gyda chanlyniadau poenus, a doniol yn aml. Llwyddodd i gyfleu rhai o'i brofiadau rodeo mewn caneuon a oedd yn cyd-fynd â'r ffilm ‘Max Boyce Goes West’.
Yn y drydedd o raglenni awyr agored arbennig Max roedd ein harwr eofn yn Nepal ar gyfer 'Pencampwriaethau Polo Eliffantod y Byd’.
Yn 1990 perswadiwyd Max i ymuno â byd hudol pantomeim yn chwarae 'Jack' yn 'Jack and the Beanstalk' gyda’i ffrind hirdymor Ian Botham ac roedd yn llwyddiant ysgubol.
Ym 1995 aeth Max ar ei daith gyntaf yn Ne Affrica i gyd-fynd â Chwpan y Byd. Bu'n perfformio gerbron cynulleidfaoedd mawr a wnaeth wirioni ar ei hiwmor a’i straeon unigryw.
Nid yw Max erioed wedi bod ofn mynd â'i ganeuon a'i straeon i bedwar ban byd. Mae hyn wedi rhoi straeon anecdotaidd rhyfeddol iddo. Felly pan gynigiwyd taith deg cyngerdd iddo o amgylch Ynysoedd y Falkland ac Ynys Ascension, roedd yn fwy na pharod i fynd amdani a gadawsant RAF Brize Norton am Las Malvinas.
Ysgrifennodd Max unwaith (efallai i greu argraff ar asiant llenyddol yn Llundain) mai Dylan Thomas ac Al Read oedd ei ddylanwadau ef. Ei ddylanwad go iawn, fodd bynnag, oedd y gymuned lle cafodd ei fagu, cymoedd glofaol De Cymru. Y cymunedau clos hyn gyda'u cynhesrwydd a'u hiwmor cynhenid, eu tristwch a'u hangerdd.
Prin yw’r bobl sydd wedi llenwi Tŷ Opera Sydney, Neuadd Frenhinol Albert, Palladium Llundain a thorri un record ar ôl y llall mewn swyddfeydd tocynnau ledled Prydain Fawr. Mae'n gwneud i gynulleidfaoedd yng Nghymru chwerthin hyd yn oed yn fwy wrth gwrs, ond dim ond genedigaeth-fraint all roi'r hawl i'r chwerthin penodol hwnnw.
Rhan o'i lwyddiant yw nad yw wedi chwerthin ar ben ei bobl erioed, ond gyda nhw bob amser. Nid yw ei hiwmor, byth yn sbeitlyd nac yn brifo, hyd yn oed wrth wawdio'r Saeson, nid yw'n grafog, does dim chwerwder. Fodd bynnag, nid oes unrhyw un wedi egluro ei lwyddiant ac efallai na ddylem geisio.
Mae ganddo beth sydd gan bob diddanwr o fri; ymddangosiad ac arddull sy’n unigryw ac yn perthyn iddo ef a neb arall. Ni ellir camgymryd Max am neb arall. Mae'n rhyfeddol o unigryw. Clerwr crwydrol yw Max o hyd, mae'n drwbadŵr sy'n rhannu ei ganeuon a'i straeon â'r sawl sy'n barod i wrando.
Dyma'r hyn sydd fwyaf cyfarwydd iddo, apelio'n uniongyrchol at y bobl – mae'r llwyfan yn rhoi'r cyfle iddo anghofio unrhyw swildod neu ansicrwydd. Mae ei ganeuon a'i straeon wedi dod yn rhan o ddiwylliant gwerin.
Roedd Celebrity Audience yn llwyddiant ysgubol gan ddenu'r ffigurau gwylio mwyaf a gofnodwyd erioed ar gyfer rhaglen deledu BBC Cymru. Roedd hyn yn ymddangos fel pe bai'n cadarnhau poblogrwydd parhaus Max a hoffter y gynulleidfa ohono, yr hen a’r ifanc fel ei gilydd.
Roedd 1999 yn flwyddyn bwysig i Max, gyda thaith gyngerdd ledled Prydain a werthodd bob tocyn a chyfres deledu i'r BBC, i gyd-fynd â Chwpan Rygbi'r Byd, lle canodd Max ei 'Hymns and Arias' enwog yn y seremoni agoriadol.
Ar drothwy'r Mileniwm, dyfarnwyd MBE i Max yn rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd ac fe'i gwnaed yn Gymrawd er Anrhydedd Coleg Cerdd a Drama Cymru. Yn yr un flwyddyn cafodd fedal gyntaf erioed y Canghellor o Brifysgol Morgannwg lle bu'n brentis glofaol.
Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, teithiodd Max o amgylch Awstralia a pherfformio mewn cyngerdd bythgofiadwy yn y Sydney Opera House lle gwerthwyd bob tocyn. Cafodd ei recordio’n fyw ar gyfer teledu'r BBC. Gwestai arbennig y noson honno oedd Katherine Jenkins ifanc anhysbys, a'i huchelgais ar y pryd oedd canu yn y lleoliad eiconig hwnnw. Cymaint oedd poblogrwydd y rhaglen cafodd ei rhyddhau ar DVD yn ddiweddarach a'i henwebu gan y BBC am wobr BAFTA.
Ers hynny mae Max wedi teithio'n gyson gyda llwyddiant ysgubol gyda phob tocyn yn gwerthu cyn gynted ag y byddant yn mynd ar werth.
Yn 2011 ar Fawrth y cyntaf, ffilmiodd y BBC Max Boyce 'Live at Treorchy' yn theatr y Parc a'r Dâr yng Nghwm Rhondda. Roedd rhaglen ddogfen yn cyd-fynd â'r rhaglen hon oedd yn dilyn gyrfa gynnar Max Boyce trwy ei flynyddoedd cynnar oedd yn anodd yn aml. Enillodd y rhaglenni hyn ganmoliaeth feirniadol enfawr gan ddenu ffigurau gwylio heb eu tebyg.
Ym mis Medi 2013 dathlodd y BBC ei ben-blwydd yn 70 oed gyda rhaglen deledu arbennig gyda John Inverdale wrth y llyw. Hon oedd y sioe adloniant ysgafn fwyaf llwyddiannus gyda'r sgoriau uchaf ar BBC Cymru'r flwyddyn honno.
Yn yr un flwyddyn derbyniodd Max anrhydedd Rhyddid Bwrdeistref Castell-nedd Port Talbot am ei waith elusennol ac am ei ymrwymiad gydol oes i'w gymuned. Dyma'r anrhydedd uchaf y gall y fwrdeistref ei rhoi ac mae Max yn dilyn ôl troed Richard Burton a Syr Anthony Hopkins.
Ym mis Mehefin 2014 cafodd Max ei daro'n sâl a bu'n rhaid iddo gael llawdriniaeth ddargyfeiriol bedwarplyg ar y galon. Adferwyd ei iechyd, a lai na blwyddyn ar ôl ei lawdriniaeth, roedd yn ôl ar y llwyfan.
Yn 2016 roedd wrth ei fodd yn derbyn Gradd Meistr er Anrhydedd gan Brifysgol Abertawe a Chymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant.
Yn 2020 ar anterth y cyfnod clo cyntaf yn sgil Covid, ysgrifennodd Max gerdd arwrol a theimladwy, 'When Just the Tide Went Out’. Daeth yn llwyddiant ysgubol ar y rhyngrwyd a chafodd ei lawrlwytho dros 5 miliwn o weithiau. Gofynnwyd iddo berfformio'r gerdd gerbron Dug a Duges Caergrawnt hyd yn oed, ar eu hymweliad Brenhinol â Chaerdydd i ddiolch i nyrsys a meddygon y GIG am eu dewrder a'u gwasanaeth.
Ym mis Tachwedd 2021 rhyddhaodd Max ei lyfr newydd o ganeuon a straeon 'Hymns and Arias’. ‘Mae’n cynnwys rhai o'i glasuron cynnar; ‘Rhondda Grey' a 'Duw It’s Hard’ yn ogystal â rhai caneuon newydd; ‘Is God In His Paint Shop’, ‘Aber Fan’ a ‘With a Whistle in His Hand’ a'r gân hynod boblogaidd 'When Just the Tide Went Out’.
Ceir hanesion doniol am ei dorcalon yn chwarae golff gyda Seve Ballesteros, yn chwarae quarter back i’r Dallas Cowboys yn America, a chael ei gipio gan estroniaid arallfydol ar gae ei glwb rygbi lleol.
Mae’r llyfr yn hyfrydwch pur, gwaith saer geiriau a diddanwr dawnus sy'n gallu paentio lluniau gyda geiriau, a chipio amser a lle penodol mewn modd unigryw.
Mae Max yn arwr gwerin modern. Mae ei ganeuon a'i straeon wedi dod yn rhan o chwedloniaeth Gymreig.
Yn 2022 bydd Max yn ôl ar y lôn eto ar gyfer taith arall sydd wedi gwerthu pob tocyn! Yn cadw cwmni iddo fydd ei hen ffrind, John Martin, a oedd yn sgriptiwr i Ken Dodd am flynyddoedd lawer ynghyd â'r digrifwr Rod Woodward. Bydd enillydd y sioe deledu BBC 1 Altogether Now, y canwr a'r cyfansoddwr Shelleyann, ar y daith gyda Max hefyd.
Does dim dwywaith bod seren Max yn esgyn unwaith eto gyda'i lyfr 'Hymns and Arias' yn mynd yn syth i frig y siartiau llyfrau ac yn aros yno dros y Nadolig!