Mae Michael Röckner yn Athro Mathemateg ym Mhrifysgol Bielefeld. Bu ganddo swyddi athrawol blaenorol ym Mhrifysgol Purdue ac ym Mhrifysgol Bonn a bu'n Ddarllenydd ym Mhrifysgol Caeredin. Derbyniodd ei Ddoethuriaeth a'i Habilitation gan Brifysgol Bielefeld. Enillodd Wobr Goffa Syr Edmund Whittaker, Gwobr Heinz Mayer Leibnitz a Gwobr Ymchwil Max Planck.
Mae'n Athro Gwadd Nodedig yn yr Academi Mathemateg a Gwyddoniaeth Systemau yn Beijing ac enillodd y Wobr am Gydweithrediad Rhyngwladol gan Academi’r Gwyddorau Tsieina yn 2023. Mae'n aelod o'r Academia Europaea, yr Academi Gwyddoniaeth a Llenyddiaeth, Mainz, ac yn aelod tramor o Academi’r Gwyddorau Romania.
Bu'n Llywydd Cymdeithas Fathemategol yr Almaen (DMV) ac yn Gyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Ryngddisgyblaethol (ZiF) yn Bielefeld. Bu'n gadeirydd panel ar gyfer Grantiau Uwch y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd, yn aelod o'r Pwyllgor Dethol ar gyfer Dyfarniadau Uwch Humboldt, yn aelod o Gomisiwn y Senedd ar gyfer Canolfannau Ymchwil Gydweithredol Sefydliad Gwyddoniaeth yr Almaen (DFG) ac am 11 o flynyddoedd bu'n Ddeon Cyfadran Mathemateg Prifysgol Bielefeld.
Yn ogystal â chwe llyfr, mae wedi cyhoeddi bron 400 o erthyglau ymchwil, wedi goruchwylio 31 o fyfyrwyr PhD a bu’n noddwr i 10 ysgolhaig Humboldt. Ei brif faes ymchwil yw dadansoddiad stocastig.