Ganed Nigel Owens ar 18 Mehefin 1971 a'i fagu ym mhentref Mynyddcerrig, ger Cross Hands yn Sir Gaerfyrddin. Mae'n siaradwr Cymraeg rhugl. Bu'n dechnegydd ysgol yn Ysgol Gyfun Maes yr Yrfa Cefneithin ac yn weithiwr ieuenctid gyda Menter Cwm Gwendraeth.
Fe'i penodwyd yn ddyfarnwr rhyngwladol yn 2005, a'r flwyddyn honno bu'n dyfarnu yn ei gêm ryngwladol gyntaf rhwng Iwerddon a Japan yn Osaka. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yng Nghwpan y Byd ar 11 Medi 2007 yn y gêm rhwng yr Ariannin a Georgia yn Lyon, Ffrainc.
Mae'n un o ddau ddyfarnwr yn unig i gael eu penodi i ddwy rownd derfynol Cwpan Heineken yn olynol: Munster v Toulouse yn Stadiwm y Mileniwm yn 2008; a Leicester Tigers v Leinster yn Murrayfield yn 2009. Ers hynny mae wedi gwneud trydedd rownd derfynol: Leinster v Ulster yn Twickenham yn 2012. Mae hyn yn ogystal â dwy rownd derfynol Cwpan Her Ewrop yn gwneud cyfanswm o bum rownd derfynol Ewropeaidd, sy'n golygu mai ef yw'r dyfarnwr sydd â'r nifer fwyaf o gapiau mewn cystadleuaeth Ewropeaidd.
Mae Nigel Owens yn wyneb cyfarwydd ar y teledu hefyd ac mae'n un o'r cyflwynwyr ar Jonathan, sioe sgwrsio Cymraeg ar thema rygbi a gyflwynir gan gyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, Jonathan Davies, a ddarlledir ar S4C ar drothwy gemau rhyngwladol mawr. Mae'n cyd-gyflwyno'r sioe sgwrsio Gymraeg ar thema chwaraeon, Bwrw'r Bar, ac erbyn hyn mae ganddo ei gyfres ei hun, y rhaglen gwis Munud i Fynd.
Yn fuan ar ôl Cwpan Rygbi'r Byd 2007, enwyd Nigel yn 'Bersonoliaeth Chwaraeon Hoyw'r Flwyddyn' yn seremoni wobrwyo'r grŵp hawliau hoyw Stonewall yn Llundain.
Cyhoeddwyd ei hunangofiant, Hanner Amser (Half Time), yn Gymraeg yn 2008, yna yn Saesneg yn 2009. Yn 2011 fe'i gwnaed yn aelod o Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam.
Bu'n noddwr Canolfan Ragoriaeth LGBT Cymru, tan iddi gael ei dirwyn i ben ddiwedd 2012, ond mae'n dal i fod yn noddwr elusen rygbi Cymdeithas y Llwy Bren.
Yn 2013 daeth Nigel yn noddwr yr elusen Bullies Out yng Nghymru.
Yn 2015 penodwyd Nigel yn ddyfarnwr ar gyfer Rownd Derfynol Cwpan Rygbi'r Byd 2015 rhwng Seland Newydd ac Awstralia yn Twickenham.
Wrth sôn am y penodiad, ysgrifennwyd yn The Independent: “Nigel Owens deserved the honour of controlling the Rugby World Cup final, since he is the best referee in any of our major sports. The antithesis of a rulebook automaton, he is authoritative without being condescending and balances sharp comment with quick humour.”
Aeth trigolion ei bentref genedigol, Mynyddcerrig, yn Sir Gaerfyrddin, ati i addurno'r strydoedd gyda rhubanau a baneri i ddathlu.
Yn ogystal â rownd derfynol 2015, cafodd ei ymdriniaeth o gêm Seland Newydd-Ffrainc yn rownd yr wyth olaf ei ganmol yn eang fel perfformiad gorau dyfarnwr yng Nghwpan y Byd, gyda chyn chwaraewyr a hyfforddwyr yn unfrydol yn eu clod iddo.
Cafodd ei wylio gan filiynau yn ystod rownd derfynol Cwpan y Byd ond ychydig wythnosau'n ddiweddarach, dychwelodd i lawr gwlad pan ddyfarnodd mewn gêm rhwng Clwb Rygbi Tre-gŵyr a Chlwb Rygbi Crymych yn Adran Un Gorllewin Cynghrair Swalec lle mae'r dorf oddeutu 150 gan amlaf.
Cyn y gêm, dywedodd rheolwr swyddogol Undeb Rygbi Cymru Nigel Whitehouse: “He had a fantastic World Cup and was the people's choice to take charge of the final. But he is refereeing two village teams next weekend - it will be good for him.”
Ym mis Tachwedd 2015, cyhoeddodd ei fod yn bwriadu parhau i ddyfarnu mewn rygbi rhyngwladol am bedair blynedd arall.
Ar 28 Tachwedd 2020, dyfarnodd Nigel ei 100fed gêm ryngwladol yng ngêm Cwpan Cenhedloedd yr Hydref rhwng Ffrainc a'r Eidal, gan ddod y dyfarnwr cyntaf i gyrraedd y nod hwnnw. Bythefnos yn ddiweddarach, cyhoeddodd ei fod yn ymddeol o ddyfarnu rhyngwladol ar unwaith, gan ddweud “Does gan neb hawl ddwyfol i ddal ati am byth” ond mynegodd ddymuniad i barhau i ddyfarnu gemau clwb yn y Pro14 ac ar lefel clwb yng Nghymru.