Nigel Short yw un o’r dynion busnes mwyaf llwyddiannus yng Nghymru. Dyfarnwyd CBE iddo am wasanaethau i’r economi yng Nghymru yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2021.

Mae Nigel wedi ymwneud â nifer o’r cwmnïau gorau, ond ei swydd fwyaf arwyddocaol fu gyda Penderyn, y cwmni wisgi Cymreig arobryn gyda distyllfeydd yn Llandudno a De Cymru, lle mae wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Gweithredol ac mae bellach yn Gyfarwyddwr a chyfranddaliwr.

Cafodd ei eni yng Nghwm Cynon a’i addysgu yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn yn Aberdâr. Mewn arwydd cynnar o’i waith yn y dyfodol, chwaraeodd Nigel fel prop ar gyfer tîm yr ysgol ac ymddangosodd mewn dau dreial terfynol ar gyfer ysgolion uwchradd yng Nghymru. Yn ddiweddarach daeth yn gadeirydd proffil uchel Clwb Rygbi’r Scarlets - un o bedwar tîm proffesiynol rygbi’r undeb yng Nghymru a’r un a ddynodwyd i gynrychioli’r Gogledd - am wyth mlynedd, gan arwain y clwb i nifer o gemau ail gyfle a chynderfynol yn ogystal ag ennill cynghrair y Pro 12 yn 2017. Bu’n hyfforddi timau iau am flynyddoedd lawer ac mae’n ddyfarnwr rygbi cymwysedig.

Wrth dyfu i fyny, roedd Nigel yn byw o fewn ychydig filltiroedd i bentref Penderyn. Ond cyn i’w yrfa fynd ag ef yno, gadawodd yr ysgol yn 16 oed ac ymuno â busnes y teulu, gan dreulio 25 mlynedd yn gweithio yn y diwydiant dur yn ymgymryd â logisteg soffistigedig ar y safle a chyflogi 1,500 o bobl mewn chwe gwlad wahanol.

Pan werthwyd busnes y teulu i Brambles Limited, bu Nigel yn rhedeg y gweithrediadau yn Ewrop a Gogledd America tan 2002 pan symudodd i Benderyn. Dros yr 20 mlynedd diwethaf mae Penderyn wedi dod yn frand eiconig Cymreig ac yn ddiweddar mae wedi dod â’r brand hwn i Landudno trwy agor distyllfa arddangos yno.

Mae Nigel wedi cael ei ddenu gan gyfleoedd newydd erioed ac mae wedi bod yn gyfarwyddwr yn Short Brothers Energy, Short Brothers Homes a Hygrove Homes. Yn fwy diweddar mae’n gweithio gydag ymchwilwyr mewn busnes technoleg feddygol newydd sy’n canolbwyntio ar leihau heintiau a gafwyd mewn ysbytai.

Mae’n rhedeg fferm cig oen a chig eidion organig 400 erw yn Sir Gaerfyrddin hefyd ac mae’n un o chwe aelod o’r sector preifat ar y Bwrdd Strategaeth Economaidd sy’n helpu i gyflawni’r Fargen Ddinesig Bae Abertawe gwerth £1.3 biliwn sydd â’r potensial i drawsnewid economi De Cymru.

Mae Nigel yn rhoi yn ôl i’r gymuned mewn sawl ffordd. Mae’n cefnogi Sustrans, y rhwydwaith beicio cenedlaethol, sawl achos elusennol lleol, ac mae’n ymddiriedolwr sefydliad yr RFU i chwaraewyr sydd wedi’u hanafu.

Mae penderfyniad Nigel a’i graffter busnes yn ysbrydoliaeth i lawer, o arweinwyr y sector preifat a chyhoeddus i fyfyrwyr busnes ac entrepreneuriaid ifanc heddiw sy’n dyheu am lwyddiant tebyg. Fel dyn sydd wedi chwarae rhan allweddol mewn diwydiannau y mae Cymru’n enwog amdanynt – dur a rygbi – a Whisgi Penderyn, mae’n disgrifio’i hun fel penderfynol a pherffeithydd. Dywed  ‘mai’r ateb i’r rhan fwyaf o broblemau mewn bywyd yw gwaith caled. Os ydych chi’n gweithio’n galed ac yn dal ati, bydd llwyddiant yn siŵr o ddod’.