Mae Mr Burton yn aelod uwch o’r FisherBroyles Litigation and Oil & Gas Sections. Ers 1987, mae wedi ymgyfreitha ar amrywiaeth eang o anghydfodau, gan ganolbwyntio’n bennaf ar y diwydiant olew a nwy lle mae’n cynrychioli nifer o gleientiaid Archwilio a Chynhyrchu a Gwasanaeth Ynni yr Unol Daleithiau a Rhyngwladol. Mae’n awdur-ddarlithydd mynych ar Gytundebau Masnachol, Contractau Rhyngwladol, Deddfau Gwrth-indemniad Meysydd Olew, a Diogelu Cyfrinachau Masnach. Yn ogystal â’i brofiad ymgyfreitha uwch, mae gan Mr Burton brofiad helaeth o drafod anghydfodau dros gontractau’r sector ynni canol hefyd gan gynnwys cytundebau prosesu ac anghydfodau dyrannu NGL ac ymgyfreitha TENORM sy’n deillio o halogiad ymbelydrol piblinellau a chyfleusterau prosesu. Yn ystod ei yrfa, mae Mr Burton wedi ymdrin ag amrywiaeth eang o faterion amgylcheddol hefyd ac wedi gweithio’n agos gydag amrywiaeth o swyddfeydd gorfodi ffederal, taleithiol a lleol.
Dechreuodd ei yrfa gyfreithiol fel erlynydd llwyddiannus yn Swyddfa Twrnai Ardal Harris County, lle bu’n Bennaeth yr Is-adran Troseddau Teuluol. Mae wedi cael ei ddewis i’w gynnwys yn Who’s Who in Energy rhwng 2011 a 2014. Mae’n Gymrawd Oes Sefydliad Bar Texas, anrhydedd a roddir i lai nag 1% o dwrneiod Texas. Mae wedi derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol am ei waith pro bono ar ran plant sy’n cael eu cam-drin – derbyniodd y wobr “Cyfreithiwr Ifanc Eithriadol Houston,” gan Gymdeithas Cyfreithwyr Ifanc Houston am y gwaith hwn. Mae wedi bod yn aelod o Goleg Pro Bono Bar Talaith Texas am y 30 mlynedd diwethaf a mwy ac ar 16 Gorffennaf 2014, dyfarnwyd gradd Doethuriaeth mewn Llenyddiaeth er Anrhydedd iddo gan Brifysgol Abertawe am ei waith ar ran plant ac ieuenctid. Yn 2018, derbyniodd Mr Burton y raddfa “Prif Gwnselydd” mewn Cyfraith Busnes. Enillodd Mr Burton Wobr Cyflawniad Oes Who’s Who Marquis yn 2020.